Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Bryn y Beili - Cytundeb Rheoli Teiran a鈥檙 Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect
Published: 25/09/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug a Chyfeillion Grwp Bryn y Beili a bu鈥檔 llwyddiannus gyda chais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn gynharach eleni.听
Mae鈥檙 prosiect cyffrous hwn bellach yn barod i ddechrau a gofynnir i aelodau'r Cabinet roi awdurdod ar gyfer cytundeb grant gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri am 拢963,700, er mwyn dechrau ar y prosiect.听 听 Hefyd, gofynnir iddynt gytuno ar gytundeb cyfreithiol ar gyfer datblygu a rheoli Bryn y Beili gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn y Beili.
Mae Bryn y Beili鈥檔 brosiect arwyddocaol i wella amgylchedd treftadaeth y castell tomen a beili ym Mryn y Beili yn Yr Wyddgrug. Mae hyn yn cynnwys ailddylunio mynedfa, gwella mynediad, ardal chwarae newydd, dehongliad o鈥檙 safle cyfan ac ailddatblygu Bwthyn Ceidwaid yn ofod cymunedol amlbwrpas.
Cyfanswm cost y prosiect, gan gynnwys cyllid partneriaeth ac arian cyfatebol yw 拢1,301,970, y mwyafrif wedi鈥檌 dderbyn.听 Gan fod rhai ceisiadau am arian yn parhau鈥檔 weddill, mae pob partner yn hyderus y cyflawnir unrhyw ddiffyg dros 3 blynedd y prosiect.听
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淏ydd y prosiect cyffrous hwn a ariannwyd drwy grant yn gweld Bryn y Beili yn cael ei adfer a'i hybu i wneud y mwyaf o'i leoliad arbennig fel man geni'r Wyddgrug. 听Mae鈥檔 ardal lle gall pobl fwynhau鈥檙 amgylchedd naturiol sydd mor bwysig yng nghanol trefi. Bydd mynediad gwell i鈥檙 ardal gan ei agor i fyny i mwy o bobl. 听Mae鈥檙 cytundeb rheoli yn gytundeb cyfreithiol safonol rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn y Beili. 听 Bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau'n berchen ar y safle.鈥