天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn paratoi am ddiffibrilwyr

Published: 13/09/2018

defibrillator training at FCC.jpgGyda dros 8000 o ataliadau ar y galon yn digwydd y tu allan i ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn, mae diffibrilwyr yn ddarnau hanfodol o offer i achub bywydau.听

Mae 1251 o ddiffibrilwyr wedi cael eu gosod gan Welsh Hearts mewn cymunedau ar draws Cymru hyd yn hyn.听

Mae Cyngor Sir y Fflint, ar y cyd 芒 Welsh Hearts, yn gosod tri diffibriliwr newydd yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint yn Alltami, yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug, ac yn Nhy Unity yn Ewlo, ac mae hyfforddiant a sesiwn ymwybyddiaeth yn cael ei gynnig i weithwyr y Cyngor.听

Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett oedd un o鈥檙 cyntaf i gael yr hyfforddiant, a dywedodd:听

听鈥淏ydd yr hyfforddiant yma鈥檔 ymestyn gwybodaeth a hyder ein gweithlu i ymateb heb oedi mewn argyfwng, naill yn y gwaith neu du allan i鈥檙 gwaith.听 Mae鈥檔 cynnwys sgiliau hanfodol mewn argyfwng a sgiliau achub bywyd, gan gynnwys hyfforddiant ar sut i ddefnyddio diffibriliwr yn ddiogel 鈥 fe allai鈥檙 wybodaeth a鈥檙 weithred achub bywyd.鈥

Mae diffibriliwr eisoes wedi cael ei osod yn Llyfrgell y Fflint, gyferbyn 芒 Swyddfeydd y Sir, y Fflint.听 听听

I ddysgu mwy am Welsh Hearts, a鈥檜 gwaith yn helpu i achub bywydau, ewch i www.welshhearts.org.听