Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gynllun tai gofal ychwanegol newydd
Published: 31/07/2018
Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar gynllun tai gofal ychwanegol newydd gwerth 拢8.5 miliwn yn Nhreffynnon
Mae'r prif gontractwr Anwyl Construction wedi clirio鈥檙 safle ac wedi dechrau ar y gwaith o adeiladu pedwerydd cynllun gofal ychwanegol Sir y Fflint, sy鈥檔 cael ei ddarparu gan y datblygwyr Tai Wales & West mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint.
Mae鈥檙 prosiect hwn, ar y safle lle鈥檙 oedd Ysgol Perth y Terfyn yn arfer bod, yn cynnwys safle fflatiau 55 uned.
Bydd yr adeilad fflatiau pedwar llawr yn cynnwys 43 o fflatiau un ystafell wely a 12 o fflatiau dwy ystafell wely gydag ystod o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr ar y safle i bobl hyn gydag anghenion cymorth.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:听
听鈥淒yma gam mawr arall ymlaen ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf yn Sir y Fflint. Gyda鈥檙 Cyngor a Chymdeithas Tai Wales & West ac Anwyl Construction yn gweithio mewn partneriaeth, mae pob un ohonom yn edrych ymlaen i weld y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd y cyfleuster newydd yn Nhreffynnon yn cynnig cyfleusterau ardderchog i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau trigolion.听 Mae鈥檔 gyfle gwych arall i ddatblygu tai sy鈥檔 galluogi pobl hyn i gael dewis newydd, tra鈥檔 cynnal eu hannibyniaeth a鈥檜 lles.鈥
Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Tai Wales & West:听
"Y cynllun gofal ychwanegol hwn fydd yr ail un yn Sir y Fflint, yn cynnig hyd yn oed mwy o allu i fyw鈥檔 annibynnol mewn llety o ansawdd uchel gyda mynediad i ofal a chymorth 24 awr ar y safle. Rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio鈥檔 agos gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu鈥檔 cynllun a gydag Anwyl Construction fel y prif gontractwr rydym yn gallu sicrhau fod swyddi鈥檔 cael eu creu a鈥檜 cadw yng Ngogledd Cymru, gan gynnig hwb economaidd sylweddol i鈥檙 rhanbarth.鈥
Dywedodd Rheolwr Masnachol Anwyl Construction, Simon Rose:听
"Rydym wrth ein bodd i weithio gyda Thai Wales & West a Chyngor Sir y Fflint ar yr hyn sy鈥檔 ddatblygiad arwyddocaol iawn i Dreffynnon.
听鈥淏ydd y cyfleuster Gofal Ychwanegol yn cynnig cyfleoedd o safon uchel yn yr ardal ac yn dod a datrysiad i fyw'n annibynnol.听 Ar brosiect sylweddol fel hwn, rydym bob amser yn ceisio defnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol i sicrhau fod cyfleoedd gwaith pwysig yn cael eu gwireddu, mae hyn hefyd yn cynnwys prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith, ac yn ei dro yn cynnig buddsoddiad yn economi鈥檙 ardal.
听鈥淢ae鈥檙 gallu i ddefnyddio鈥檙 gadwyn gyflenwi leol hefyd yn dangos bod gennym sgiliau adeiladu o safon a phrofiad yma yng Ngogledd Cymru i gyflawni prosiectau mawr fel hyn.鈥
听