Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hybu ymwelwyr a rheoli cyrchfan
Published: 11/07/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint drafod y dulliau presennol a rhai sy鈥檔
datblygu ar gyfer hybu ymwelwyr a rheoli cyrchfan yn y Sir pan mae鈥檔 cyfarfod
yn ddiweddarach y mis hwn.
Er bod economi ymwelwyr yn Sir y Fflint yn gydran gymharol fechan o economi Sir
y Fflint, maen parhau i fod yn gyfrannwr pwysig. Mae鈥檙 sector yn cyflogi
oddeutu 3,272 o bobl ac yn creu oddeutu 拢252m bob blwyddyn o 3.7m o arhosiadau
dros nos a 2.7m o ymweliadau diwrnod. Mae 4.7m o bobl yn byw o fewn 60 munud
mewn cerbyd o Sir y Fflint gan roi dalgylch mawr ar gyfer yr economi ymwelwyr.
Mae鈥檙 cyngor yn gweithio鈥檔 agos gyda busnesau twristiaeth, awdurdodau cymdogol
a Llywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo Sir y Fflint, yn arbennig i gwsmeriaid
posibl o Ogledd Gorllewin Lloegr. Mae hybu twristiaeth yn dibynnu鈥檔 gryf ar
gyfryngau cymdeithasol a chynhyrchiant fideos a deunyddiau marchnata electronig
sy鈥檔 dangos y rhanbarth a鈥檙 Sir. Mae鈥檙 Cyngor hefyd yn gwneud defnydd o
gyfleoedd marchnata cenedlaethol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Sir y Fflint i
gynulleidfa mor eang 芒 phosib.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint:
鈥淢ae Rheoli Cyrchfan yn bwysig er mwyn sicrhau bod ardal yn cael ei reoli a鈥檌
gyfarparu er mwyn darparu ar gyfer anghenion ei ymwelwyr. Mae hwn yn
flaenoriaeth genedlaethol i Lywodraeth Cymru. Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir
y Fflint yn bwriadu cynyddu cyfartaledd hyd arhosiad ymwelwr mewn atyniad,
uchafu ar gyfleoedd i ymwelwyr aros a gwario a chyflawni lledaeniad mwy
effeithiol o ymwelwyr ar draws y Sir, er mwyn manteisio ar refeniw twristiaeth
ychwanegol o fewn yr economi lleol.鈥
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淢ae cyfleoedd gwych ar gael a dylem fanteisio arnynt. O safbwynt cefn gwlad
a thwristiaeth, rhaid i ni ddatblygu ein seilwaith ymwelwyr ymhellach, ynghyd 芒
gweithgaredd hyrwyddo ar hyd arfordir Dyfrdwy, ein trefi hanesyddol, hyrwyddor
Sir fel cyrchfan cerdded o鈥檙 radd flaenaf gydag Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Bryniau Clwyd, a pharhau i ddatblygu鈥檙 atyniadau yn ardaloedd Maes
Glas a Threffynnon a chryfhaur cysylltiadau sy鈥檔 datblygu rhwng adfywio鈥檙 Sir,
twristiaeth a r么l y mannau gwyrdd a chefn gwlad er mwyn sicrhau ein bod ni鈥檔
manteisio ar yr hyn mae ein Sir brydferth yn ei gynnig.鈥