Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Disgyblion yn cymryd rhan mewn seremoni i dorrir dywarchen
  		Published: 01/05/2018
Roedd disgyblion yn Ysgol Penyffordd wedi eu cyffroi i fod yn rhan o鈥檙 seremoni 
swyddogol i dorri鈥檙 dywarchen a gynhaliwyd yn ddiweddar ar safle eu hysgol 
newydd. 
Penododd Cyngor Sir y Fflint y cwmni lleol Wynne Construction, sydd wedi eu 
lleoli ym Modelwyddan i adeiladu cyfleuster ysgol gynradd yr 21ain Ganrif 
newydd gwerth miliynau o bunnoedd.  Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a 
Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif 
Llywodraeth Cymru.     Bydd yr ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 
3-11 oed yn uno ar safle Abbotts Lane, yn ogystal 芒 dymchwel yr ysgol bresennol 
i fabanod ac adeiladu maes parcio gwell a mwy ar gyfer staff ac ymwelwyr a 
chreu ardal ollwng benodol i rieni a gofalwyr. 
Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn cynnwys neuadd a stiwdio ac ystafelloedd 
dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau 
allweddol 1 a 2.  Bydd y cae a鈥檙 ardaloedd chwaraeon yn cael eu cadw.   
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
 鈥淒yma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 
Sir y Fflint.  Bydd y buddsoddiad o bron i 拢7 miliwn yn darparu cyfleuster 
modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a鈥檙 gymuned ehangach a bydd yn 
cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.鈥
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg Kirsty Williams: 
 鈥淢ae鈥檔 wych i weld fod gwaith yn dechrau rwan ar yr Ysgol Penyffordd newydd.  
Bydd yr ysgol newydd yn cynnig gwell cyfleusterau i staff, disgyblion a鈥檙 
gymuned ehangach.  Dyma un o鈥檙 prosiectau diweddaraf i ddechrau fel rhan on 
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y 
gwaith yn mynd yn ei flaen.鈥
Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: 
 鈥淩ydym wrth ein boddau i gael ein dewis fel y contractwr ar gyfer y prosiect 
newydd cyffrous hwn gyda Chyngor Sir y Fflint.  Gan fod y disgyblion wedi ein 
helpu i ddechrau鈥檙 prosiect, edrychwn ymlaen at drefnu ymweliadau safle yn 
ystod y gwaith adeiladu, er mwyn iddyn nhw weld o鈥檙 tu mewn sut mae eu hysgol 
yn tyfu. Byddwn hefyd yn darparu cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, i wneud 
yn siwr fod buddion y buddsoddiad mawr hwn yn cael eu gwasgaru mor eang a 
phosibl.鈥
Mae鈥檙 prosiect hwn yn dilyn gorffen Campws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched 
Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn llwyddiannus, ac mae disgwyl i鈥檙 gwelliannau 
moderneiddio presennol sy鈥檔 digwydd yn Ysgol Uwchradd Cei Connah gael eu 
cwblhau yn ystod haf 2019.