Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru
  		Published: 05/03/2018
Mae gwaith Cyngor Sir y Fflint gyda phreswylwyr diamddiffyn a鈥檙 rhai sy鈥檔 profi 
tlodi tanwydd wedi鈥檌 gydnabod mewn digwyddiad gwobrwyo cenedlaethol.
Sefydlwyd Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru i ddathlu arfer da yn 
y sector effeithlonrwydd ynni a chydnabod rhagoriaeth gan y sector preifat, 
cyhoeddus a gwirfoddol yn eu gwasanaeth i鈥檞 cymuned leol.
Enillodd Cyngor Sir y Fflint y wobr 鈥淐orff Awdurdod Lleol y Flwyddyn鈥 am ei 
raglenni effeithlonrwydd ynni domestig a chafodd Gymeradwyaeth Uchel yn y 
categori 鈥淵mgyrchwr Cymorth i Gwsmeriaid Diamddiffyn y Flwyddyn鈥 am y cymorth 
mae鈥檔 ei roi i aelwydydd mewn partneriaeth 芒 Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd 
Cymru.
Mae鈥檙 Gwobrau hyn yn gwobrwyo un cyngor neu sefydliad eithriadol, ym mhob un 
o鈥檙 11 ardal ranbarthol ar draws y DU, sydd wedi dangos ymrwymiad real i 
hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd yn eu rhanbarth.
Mae rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach hefyd wedi cael cydnabyddiaeth yn y wobr 
鈥淣ational Energy Action and Scottish Power Heat Hero鈥.   Roedd Joanna Seymour, 
rheolwr prosiect y rhaglen, yn un o ddim ond 15 o enillwyr a ddewiswyd o bob 
cwr o Gymru a Lloegr a fynychodd dderbyniad yn Nhy鈥檙 Cyffredin yn ddiweddar.   
Er iddi gael ei henwebu ar gyfer y Wobr fawreddog hon, mae Joanna am ailadrodd 
bod llwyddiant menter Cartrefi Iach Pobl Iach yn ymdrech t卯m ac mae鈥檙 wobr yn 
cydnabod gwaith caled holl aelodau T卯m Effeithlonrwydd Ynni y Cyngor  
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淩wyf wrth fy modd bod gwaith caled y Cyngor yn y maes hwn wedi鈥檌 gydnabod ar 
lefel genedlaethol.  Mae鈥檙 tywydd garw diweddar yn Sir y Fflint yn pwysleisio 
pa mor bwysig yw鈥檙 gwaith arloesol hwn sy鈥檔 cael ei wneud gan y Cyngor a鈥檌 
bartneriaid.  Gallwn gynnig ymateb amlasiantaeth cyfannol i ddiwallu anghenion 
aelwydydd diamddiffyn.  Trwy weithio gyda鈥檔 rhwydwaith o bartneriaid, byddwn yn 
parhau i wneud gwahaniaeth sylweddol i鈥檙 bobl sy鈥檔 byw mewn tlodi tanwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淐aiff rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach, yn benodol, ei chydnabod am ei dull 
arloesol sy鈥檔 dilyn dull sy鈥檔 canolbwyntio ar unigolion i fynd i鈥檙 afael ag 
anghenion unigol i wella eu hiechyd a鈥檜 lles.  Llongyfarchiadau i Joanna a鈥檙 
t卯m i gyd am eu gwaith gwych ac am gael y wobr genedlaethol fawreddog hon.鈥
Os gallech chi fanteisio o gael help gan y t卯m, neu os ydych yn ymwybodol o 
rywun a allai fanteisio, neu os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch ar 01352 
703425 neu healthyhomesHP@flintshire.gov.uk.