Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Aura a Chyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi buddsoddiad mawr yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug
  		Published: 10/01/2018
Mae Aura Leisure and Libraries Limited, mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y 
Fflint, yn falch o gyhoeddi cynlluniau cyffrous i ailddatblygu ac ehangu鈥檙 
cyfleusterau ffitrwydd a hamdden sydd yn yr Wyddgrug. 
 
Ar 19 Rhagfyr 2017, daeth y Cyngor yn rhan o gontract i fuddsoddi 拢1.4 miliwn i 
ddyblu maint y cyfleuster ffitrwydd presennol ac adeiladu stiwdio ychwanegol. 
Bydd hyn yn cyfrannu at gynyddu a chynnal gwasanaethau hamdden yn yr Wyddgrug 
ar cylch, yn ogystal 芒 darparu gwell cyfleusterau i blant ysgol a fydd yn 
helpu rhai sydd mewn oedran allweddol i wneud mwy o ymarfer corff.
 
Bydd y datblygiad newydd yn cael ei ariannu drwy gynllun benthyca darbodus y 
Cyngor, gydag Aura yn talu鈥檙 benthyciad yn ei 么l, ac mae鈥檔 dangos ymrwymiad y 
Cyngor i wella gwasanaethau mewn ffyrdd mwy arloesol a fforddiadwy, heb gost 
i鈥檙 Cyngor yma, gan y bydd y cynllun yn talu amdano鈥檌 hun dros amser.  
 
Bydd Aura yn rheoli ac yn gweithredu鈥檙 gwasanaethau newydd yn unol 芒鈥檌 
weledigaeth i wella iechyd meddwl a chorfforol. Sefydliad elusennol a dielw 
sy鈥檔 eiddo i鈥檙 gweithwyr yw Aura, sy鈥檔 gyfrifol am reoli鈥檙 mwyafrif o 
ganolfannau hamdden a llyfrgelloedd Sir y Fflint.
 
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
 鈥淩ydw i wrth fy modd yn gweld y gwelliannau yma a 鈥檇wi鈥檔 siwr y byddant yn 
boblogaidd ymysg disgyblion a thrigolion lleol. Braf iawn ydi gweld buddsoddi 
parhaus fel hyn yng nghyfleusterau chwaraeon a hamdden y sir.
 
Dywedodd Tom Williams, Rheolwr Canolfan Hamdden yr Wyddgrug:
 鈥淢ae t卯m Canolfan Hamdden yr Wyddgrug yn edrych ymlaen yn arw at y datblygiad 
newydd. Mi fydd hyn yn ein galluogi ni i ehangur gwasanaethau rydyn nin eu 
cynnig ir gymuned ac i barhau i ateb y galw gan gwsmeriaid o bob oed. Bydd 
adeiladu stiwdio arall ar y llawr gwaelod ac estyniad ar yr ystafell ffitrwydd 
yn ein cefnogi i ddarparu gweithgareddau newydd ir gymuned ar ddwy ysgol 
uwchradd gyfagos.
 
Dywedodd Christine Edwards, Cadeirydd Bwrdd Aura:   
 鈥淩ydyn ni鈥檔 hynod falch o鈥檙 buddsoddiad yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug, 
mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint, wrth i ni barhau ar ein taith fel 
sefydliad newydd dielw sy鈥檔 eiddo i鈥檙 gweithwyr. Fe fydd y datblygiad yn 
cyfrannu at nod Aura o 鈥榝od o fudd i鈥檙 gymuned drwy wella ansawdd bywyd drwy 
ddarparu cyfleoedd hamdden a diwylliant syn gwella iechyd meddwl a 
chorfforol鈥.  Rydyn nin awyddus i gynnig mwy o ffyrdd fforddiadwy i wneud 
ymarfer corff drwy ehangu ein gwasanaethau yn yr Wyddgrug fel eu bod nhwn 
gynaliadwy yn y dyfodol a gweithio鈥檔 agos gyda holl aelodau ein cymuned o oed 
cynnar ymlaen.鈥