天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Rhuban Gwyn yn cyrraedd mwy o ddynion nag erioed

Published: 01/11/2017

Ar 25 Tachwedd bydd mwy o ddynion nag erioed yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ymarferol, yn codi ymwybyddiaeth ac yn mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio rhoi terfyn ar drais yn erbyn merched a genethod. Mi fydd yna gannoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar 25 Tachwedd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, a bydd dynion yn cael eu hannog i dynnu lluniau o鈥檜 hunain yn gwisgo rhuban gwyn, gan addo i beidio byth 芒 chyflawni, cydoddef ac aros yn dawel am drais yn erbyn merched. Yn lleol bydd aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint a sefydliadau partner yn dod at ei gilydd i arddangos eu cefnogaeth yn ystod nifer o weithgareddau codi ymwybyddiaeth. Ddydd Iau, 23 Tachwedd, am 11am bydd Coleg Cambria yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ac yn dosbarthu rhubanau gwyn i staff a myfyrwyr yng Nglannau Dyfrdwy. Ddydd Gwener, 24 Tachwedd, am 11am bydd Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru yn arddangos eu cefnogaeth drwy wahodd asiantaethau partner i鈥檞 depo yng Nglannau Dyfrdwy ac ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd. Byddan nhw hefyd y tu allan i lyfrgell Cei Connah yn eu bws addysg yn ceisio annog aelodau o鈥檙 cyhoedd i ymuno 芒鈥檙 ymgyrch. Bydd OWL Cymru unwaith eto yn ymgysylltu ag aelodau o鈥檙 gymuned amaethyddol ym marchnad yr Wyddgrug. Mae radio cymunedau Dyfrdwy wedi cynnig hyrwyddo鈥檙 ymgyrch ac rydym ni鈥檔 ffodus iawn hefyd o dderbyn cefnogaeth timau rygbi a ph锚l-droed lleol. Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Llysgennad yr Ymgyrch Rhuban Gwyn yn Sir y Fflint: 鈥淒yma amser i addo鈥檆h cefnogaeth ac estyn allan i gymunedau ac unigolion newydd. Mae鈥檙 rhan fwyaf o ddynion yn llwyr wrthwynebu trais yn erbyn merched ac fel cymdeithas mae gennym ni lawer iw ennill o hyd o ran cydraddoldeb rhywiol a pherthnasoedd iachach. Nid yw ymgyrchu i roi terfyn ar drais yn erbyn merched yn fater i ferched yn unig. Fel unrhyw agwedd arall ar gydraddoldeb rhywiol, mae鈥檔 rhaid i ddynion fod yn rhan o鈥檙 ateb ochr yn ochr 芒 merched, gan greu diwylliant lle mae trais, camdriniaeth ac aflonyddwch gan ddynion yn erbyn merched yn hollol annerbyniol.鈥