Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dangosiad ffilm lwyddiannus o hen ffefryn
Published: 13/10/2017
Cafodd ddangosiad ffilm o hen ffefryn yn Sinema Fflint yn ddiweddar.
鈥淪inging in the Rain鈥 oedd yr ail dro i Grwp Llywio Cymunedau sy鈥檔 Gyfeillgar i
Dementia wahodd pobl i鈥檙 sinema.
Yn ddiweddar cafodd Sinemar Fflint ei achredu gan y grwp am y camau y maent
yn eu cyflawni i drefnu鈥檙 ffilmiau sydd yn gyfeillgar i ddementia.
Roedd y digwyddiad yn agored i bawb ond roedd croeso pennaf i fynychwyr caffi
cofio yn Sir y Fflint a phobl sydd yn byw gyda dementia o Fflint a chartrefi
gofal lleol.
Bu i bawb a oedd yn bresennol fwynhau profiad o sinema glasurol hen ffasiwn;
gyda thywyswyr yn mynd 芒 phobl i鈥檞 seddau gyda golau bach, gwerthu popcorn ar
hambyrddau, ac egwyl a hufen ia. Hefyd bu iddynt fwynhau canu gyda鈥檙 ffilm,
roedd cymorth yno ac roedd hi鈥檔 dawelwch nar arfer a digon o olau. Roedd nifer
o bobl yn cofio鈥檔 么l i鈥檙 sinema a phryd y gwnaethant fynychu鈥檙 tro diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 digwyddiadau hyn yn cynnig profiad gwych i bobl gyda dementia a鈥檜
gofalwyr, ac yn gwella鈥檙 gwaith da sydd yn cael ei wneud yn Sir y Fflint iw
helpu iw cefnogi.
Roedd y sylwadau ar 么l y digwyddiad yn cynnwys:
鈥淧rynhawn hyfryd! Popcorn, canu, ac ychydig o ddawnsio yn ein seddau! Rwyf yn
hoffi鈥檙 cymysgedd o seddi cyfforddus a鈥檙 soffas, prynhawn hyfryd gan bawb,
diolch i aelodau eraill y pwyllgor llywio am drefnu hyn.
鈥淧rynhawn hyfryd... rwy鈥檔 dal i siarad amdano! Diolch am y gwahoddiad... rydym
i gyd yn edrych ymlaen at y 鈥榩rynhawn o ffilm鈥 nesaf鈥.
Ffilm nesaf dydd Gwener, 1 Rhagfyr lle bydd y ffilm White Christmas鈥 yn cael
ei ddangos am 1pm.