Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Eich Llwybr i Faes Arlwyo!
  		Published: 22/09/2017
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, mewn partneriaeth 芒 Chymdeithas Tai Clwyd 
Alyn eisiau rhoi鈥檙 cyfle i bobl ifanc yn y Fflint i fod yn rhan o鈥檙 busnes 
arlwyo.
Maent yn cynnig cwrs ar y cyd i roir cyfle i breswylwyr lleol gael 
hyfforddiant, sgiliau a phrofiad mewn swyddi arlwyo a domestig. 
Mae鈥檙 cwrs sy鈥檔 para am bythefnos yn cychwyn ddydd Mawrth, 10 Hydref ym 
Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint. 
Bydd yr wythnos gyntaf yn cynnwys hyfforddiant achrededig am amrywiaeth o 
destunau gan gynnwys hylendid bwyd, codi a symud yn gorfforol, iechyd a 
diogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid.
Yn dilyn hyn, bydd ymweliadau safle i sefydliadau arlwyo lleol, cymorth gyda 
llunio CV a gweithdy meithrin hyder.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint:
鈥淒yma gyfle gwych i bobl yn y Fflint i gael profiad a sgiliau a fydd yn eu 
helpu i ddod o hyd i waith yn y busnes arlwyo.  Mae鈥檔 enghraifft wych arall o鈥檙 
gwaith partneriaeth sy鈥檔 digwydd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Clwyd Alyn.  Nid 
yn unig bydd y cyfranogwyr yn cael cymwysterau gwerthfawr, byddant hefyd yn 
cael y cyfle i fanteisio ar gyfnodau blasu gwaith a phrofiad gwaith sydd ar 
gael.鈥 
Dywedodd Lisa Ramage, Ymgynghorydd Datblygu a Dysgu ar gyfer Grwp Tai Pennaf, 
sy鈥檔 cynnwys Cymdeithas Tai Clwyd Alyn:
鈥淔el un o brif gyflogwyr yr ardal, rydym wrth ein boddau yn cefnogi鈥檙 fenter 
hyfforddiant a chyflogaeth wych hon.  Yn ogystal 芒 chynnwys hyfforddiant 
sgiliau pwysig, rydym yn gallu cynnig cipolwg ar yrfaoedd arlwyo yng 
Nghymdeithas Tai Clwyd Alyn drwy gynnig diwrnodau blasu gwaith yn ein heiddo 
presennol yng Nghaffi鈥檙 Hen Lys a鈥檙 Hwb Treftadaeth yn y Fflint a chynllun tai 
Gofal Ychwanegol Llys Eleanor ar gyfer pobl hyn yn Shotton.
鈥淢ae鈥檙 rhaglen yn helpu鈥檙 rheiny sy鈥檔 cymryd rhan i gael hyfforddiant 
achrededig a sgiliau newydd, ond mae hefyd yn helpu pobl ar eu taith yn 么l i 
waith fel eu bod mewn sefyllfa wych i ymgeisio am swyddi arlwyo a domestig pan 
fyddant yn cael eu hysbysebu, yn cynnwys yn ein Cynllun Gofal Ychwanegol yn 
Llys Raddington sy鈥檔 agor yn y Fflint y flwyddyn nesaf.鈥
Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf sy鈥檔 gweithio i gefnogi, 
meithrin sgiliau a chynnig profiad i unigolion i helpu i wella eu cyfle o gael 
gwaith cyflogedig. 
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy鈥檔 
gweithredu ar draws chwe sir yng ngogledd a chanolbarth Cymru.  Maen nhw wrthi 
datblygu nifer o Gynlluniau Gofal Ychwanegol, ac mae un yn y Fflint, sef Llys 
Raddington, i fod i agor yn 2018.
I gael mwy o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y cwrs, ffoniwch Nia Parry, 
Cymunedau yn Gyntaf, ar 01244 846090 neu anfonwch neges e-bost at: 
nia.parry@siryfflint.gov.uk.