天涯社区

Alert Section

Gwastraff Gardd

Sut i dalu

Ar-lein

Pob taliad ar-lein: £38.00

Dros y ffôn

Pob taliad ffôn: £38.00

(Bydd cynghorwyr Canolfan Gyswllt ar gael i helpu preswylwyr i gwblhau ceisiadau).  

Yn Sir y Fflint yn Cysylltu

Pob taliad a wneir yn Sir y Fflint yn Cysylltu: £38.00

(Bydd cynghorwyr Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar gael i helpu preswylwyr i gwblhau ceisiadau). 

Bydd pob cwsmer sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth yn derbyn sticer melyn newydd ar gyfer eu bin. Ni fydd y sticer RFID presennol yn ddilys mwyach, ac ni fyddant yn cael eu defnyddio ar gyfer casgliadau yn ystod y cyfnod gwasanaeth newydd.

Unwaith mae preswylydd wedi tanysgrifio’n llwyddiannus, byddant yn derbyn pecyn gyda sticer a chyfarwyddiadau o fewn 10 diwrnod. Gofynnir bod preswylwyr yn rhoi’r sticer melyn newydd ar eu bin gwastraff gardd yn unol â’r cyfarwyddiadau, er mwyn sicrhau bod eu bin yn parhau i gael ei gasglu.

Ynghyd â’r casgliadau arferol bob pythefnos am naw mis o’r flwyddyn, bydd y gwasanaeth nawr yn cynnwys casgliadau misol ym mis Rhagfyr 2026, mis Ionawr 2027 a mis Chwefror 2027.

Bydd casgliadau bin brown ond yn cael eu rhestru ar 'gwirio'ch diwrnod biniau' ar gyfer y trigolion hynny sydd wedi talu a thanysgrifio ar gyfer casgliadau gwastraff gardd.

Os ydych chi wedi tanysgrifio i wasanaeth gwastraff gardd 2026/27 ond heb gael eich sticer melyn newydd eto, peidiwch â phoeni.

Cyn belled â bod eich tanysgrifiad yn weithredol, byddwn yn parhau i gasglu eich gwastraff gardd tra bod y sticeri newydd yn cael eu cyhoeddi. Does dim angen cysylltu â ni.

Beth sy'n digwydd i Wastraff Gardd?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu Gwastraff Gardd o bob rhan o’r sir ac yn ei droi’n gynnyrch cyflyru pridd hynod gyfoethog. Cesglir tua 12,000 tunnell o wastraff gwyrdd o gartrefi Sir y Fflint, Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HRCs), ymyl ffyrdd, parciau a gerddi bob blwyddyn.

Mae'n cael ei gludo i safle compostio'r Cyngor ei hun ym Maes Glas. Dim ond llystyfiant fel glaswellt, canghennau, a dail y gellir eu cludo i'r safle, ni ellir derbyn eitemau fel pridd, cardbord neu blastig.

Cwestiynau Cyffredin

Mae’r sticer a gefais yn 2023, 2024 neu 2025 ar y bin o hyd

Tynnwch unrhyw hen sticeri oddi ar eich bin brown os gallwch.

Dylid sicrhau bod y sticer melyn newydd i’w weld yn glir ar flaen eich bin brown.

Pa mor aml mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu?

Bydd gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2026 yn cychwyn ddydd Llun 2 Mawrth 2026.

Bydd casgliadau yn digwydd bob pythefnos o fis Mawrth 2026 tan ac yn cynnwys dydd Llun 30 Tachwedd 2026, yna bydd casgliadau misol ym mis Rhagfyr 2026, mis Ionawr 2027, a mis Chwefror 2027

I wirio eich diwrnod casglu, ewch i’r dudalen Gwirio'ch Diwrnod Biniau

Ble ydw i’n gosod y sticer?

Gosodwch y sticer ar flaen eich bin brown yn defnyddio’r cyfarwyddiadau sydd yn y pecyn tanysgrifio.

Llynedd tanysgrifiais am nifer o finiau ond eleni dim ond un bin sydd ei angen arnaf, sut ydw i’n gwybod pa sticer/bin i roi allan?

Oherwydd y byddwn yn anfon sticeri melyn newydd ar gyfer cyfnod tanysgrifio 2026/2027, dim ond biniau brown â’r sticeri newydd arnynt gaiff eu casglu.

Beth os ydw i’n tanysgrifio a bod y bin brown neu’r sticer tanysgrifio’n cael ei ddwyn?

Gofynnwn i chi holi eich cymdogion i wneud yn siŵr nad ydyn nhw wedi mynd â’ch bin brown chi mewn camgymeriad.

Mae’r sticeri wedi eu creu gydag adlyn lefel uchel, sy’n gwrthsefyll tywydd. Unwaith y byddant wedi eu gosod, maent yn anodd eu tynnu.

Rydym yn eich annog i farcio eich bin brown gyda rhif eich tŷ neu’r cyfeiriad i wneud eich bin yn hawdd ei adnabod. Cyfrifoldeb deiliad y tŷ yw sicrhau bod eu bin brown yn cael ei storio'n ddiogel. Os oes bin ar goll, bydd angen talu £30 am un newydd (h.y. cost y bin).

Beth os yw fy sticer wedi’i ddifrodi/ar goll?

Eich cyfrifoldeb chi yw’r bin brown, a dylech sicrhau bod eich sticer yn hawdd i’w weld. Fodd bynnag, os yw wedi’i ddifrodi/ar goll, cysylltwch â ni a bydd swyddog yn gwirio eich manylion ar ein system ac, os oes angen, yn dod i ymweld â’r safle.

Mae gan breswylydd fwy nag un bin a sticer.

Os yw preswylydd wedi talu am fwy nag un bin i’w wagu, yna bydd pob bin yn derbyn sticer newydd gyda rhifau cyfresol unigol ar gyfer pob bin.

Beth os ydw i am wneud cais am ad-daliad?

Defnyddiwch y ffurflen gais am ad-daliad i wneud cais am ad-daliad ar gyfer 2026 gan nodi’n glir y rheswm dros yr ad-daliad. Bydd y ffurflen yn eich arwain drwy’r wybodaeth y mae ei hangen arnom i asesu cais am ad-daliad. Unwaith y byddwn wedi ei asesu byddwch yn cael gwybod y canlyniad o fewn 10 diwrnod.

Pam ydych chi wedi newid i sticeri melyn?

Bydd cwsmeriaid a danysgrifiodd yn 2023, 2024 neu 2025 wedi cael sticer RFID gwyn. Ni fyddwn yn defnyddio technoleg RFID mwyach, oherwydd bod y gwasanaeth yn symud at systemau mwy newydd ac effeithlon. Oherwydd y newid hwn, ni fydd y sticeri RFID yn gweithio o ddechrau cyfnod casglu 2026, sef dydd Llun 2 Mawrth.

O ddechrau cyfnod tanysgrifio 2026/2027, bydd aelwydydd yn cael sticer melyn. Mesur dros dro yw’r sticer a bydd yn brawf eich bod wedi talu, wrth i ni drosglwyddo i’n technoleg wedi’i diweddaru. Caiff mwy o fanylion am y system newydd eu rhannu pan fydd wedi’i chyflwyno.

Ar gyfer beth mae’r cod QR?

Bydd eich cod QR (Ymateb Cyflym) y gallwch ei sganio gyda’ch ffôn symudol yn mynd â chi’n syth i wefan Sir y Fflint lle gallwch wirio eich (calendr) diwrnod biniau neu gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu. 

A fydd y sticer yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol?

Na, ni fydd y sticer yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Bydd yn cynnwys rhif cyfeirnod unigryw (fel yr hen sticer neu’r tag presennol) y gellir ei drawsgyfeirio i gyfeiriad yr eiddo ar gronfeydd data’r swyddfa gefn. 

Gweler yr hysbysiad preifatrwydd os gwelwch yn dda.