Teuluoedd yn Gyntaf

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn grŵp lleol o wahanol wasanaethau sy’n gweithio gyda’i gilydd i helpu teuluoedd. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae yma i sicrhau bod teuluoedd yn derbyn y gefnogaeth gywir pan fyddant ei hangen. Mae Cyngor Sir y Fflint yn goruchwylio grant Teuluoedd yn Gyntaf.
Mae’r holl sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf yn edrych ar gryfderau mewn teuluoedd ac yn gofyn beth sy’n bwysig iddyn nhw fel teulu. Y nod yw cynorthwyo yn y modd y mae’r teulu ei eisiau, a grymuso teuluoedd wrth iddyn nhw fynd drwy anawsterau bywyd.
Mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi ei dylunio i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd gyda’i gilydd. Mae’n gweithio drwy ddarparu cefnogaeth ar gyfer y teulu cyfan, yn hytrach nag unigolion yn unig.
Mae’r gwahanol wasanaethau yn seiliedig ar dair thema:
- Magu Plant
- Anabledd
- Pobl Ifanc
Drwy weithio gyda’i gilydd gall y gwasanaethau eich cefnogi chi gyda phob mathau o faterion, anghenion cefnogaeth, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
Sut mae Teuluoedd yn Gyntaf yn Gweithio
Mae gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf ar gael ar gyfer pob teulu. Mae’r math o gymorth y gellwch ei gael yn dibynnu ar anghenion penodol eich teulu. Gellwch ofyn i weithiwr proffesiynol wneud atgyfeiriad i chi, neu gellwch eich atgyfeirio eich hun. I wneud hyn ffoniwch 01352 701000 a gofyn am wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
Gallwn eich helpu gyda:
- Siarad gyda chi ac asesu anghenion eich teulu, a llunio cynllun cefnogaeth i ddiwallu’r anghenion hynny – rydym yn galw hyn yn Sgwrs Beth sy’n Bwysig. Gennych chi mae’r rheolaeth dros yr hyn rydych eisiau ei rannu a pha gefnogaeth rydych yn ei deimlo sydd ei hangen arnoch chi.
- Cydlynu cefnogaeth gan wahanol wasanaethau – gallwn eich sicrhau nad oes rhaid i chi weithio gyda llawer o wahanol sefydliadau i wneud apwyntiadau a dweud eich stori fwy nag unwaith.
- Trefnu cefnogaeth os oes gan aelod o’ch teulu anabledd – gall hyn fod yn blentyn neu riant.
- Rhoi cyngor ar brosiectau penodol a all helpu anghenion penodol eich teulu.
Cyngor Sir y Fflint Prosiect Gwytnwch