天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Allwedd Radar

Mae Allwedd Radar, a elwir hefyd yn allwedd Cynllun Allwedd Cenedlaethol, yn allwedd lliw glas ac arian sy'n agor mwy na 10,000 o doiledau i bobl anabl ar draws y DU.

Gellir rhoi allweddi radar i breswylwyr sydd wedi eu cofrestru yn anabl, neu sy’n ei chael yn anodd defnyddio’r cyfleusterau. I wneud cais, neu ewch i un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Sut i ddod o hyd i leoliadau toiledau allwedd radar yn y DU

Gallwch ddod o hyd i doiledau hygyrch sydd angen allwedd radar mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys gorsafoedd trên, canolfannau siopa, caffis, meysydd awyr ac archfarchnadoedd.

Dewch o hyd i leoliadau toiledau allwedd radar yn agos i chi trwy ddefnyddio’r . Ewch i’r hidlydd ar ochr chwith y dudalen a nodwch ‘Radar Key’.