天涯社区

Alert Section

Prosiectau Ysgol Cyfredol

PlayPals

Mae prosiect PlayPals yn cynnig rhaglen 6 wythnos sy’n cefnogi plant i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd, gan addysgu drwy theori chwarae, ac ymdrin â phwnc newydd bob wythnos.

Prosiect chwe wythnos o hyd sy’n archwilio’r manteision corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol o chwarae. Bydd plant yn dysgu am chwarae mewn ffordd anffurfiol a difyr, gan ymgymryd â’u rolau a’u cyfrifoldebau eu hunain drwy arwain gemau a gweithgareddau.

Dros y 6 wythnos, bydd plant yn cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau perthnasol, yn ogystal â chwblhau eu Llyfr Gwaith PlayPals eu hunain, a fydd yn eu helpu i ddeall elfennau damcaniaethol ym myd chwarae a pham mae’n bwysig. Nod PlayPals yw galluogi’r plant i ddod yn llysgenhadon dros chwarae drwy ddefnyddio’r sgiliau y maent wedi eu dysgu i addysgu plant iau yn ystod amser chwarae yn yr ysgol.

Mae’r prosiect hefyd yn cyflwyno’r defnydd achlysurol o’r Gymraeg ac yn helpu plant i fagu hyder a sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a gwaith tîm.  Ar ddiwedd y rhaglen, bydd plant yn dod yn PlayPals ‘cymwys’ ac yn arbenigwyr chwarae!

Cost y prosiect hwn yw £400.

Cynnydd Chwareus

Mae Cynnydd Chwareus yn darparu dewis o naill ai chwarae rhannau rhydd neu ddisgo distaw. Mae’r ddau weithgaredd yn darparu elfen addysgol yn ogystal â chefnogi lles drwy chwarae.

Mae’r gweithgaredd rhannau rhydd yn sesiwn bwrpasol lle gall ysgolion ddewis pwnc y mae’r plant yn ei ddysgu yn y dosbarth, a bydd y tîm chwarae’n helpu i gyflwyno hynny drwy rannau rhydd. Er enghraifft, rydym wedi cael themâu fel yr Ail Ryfel Byd, Gwytnwch, Cymunedau, Dyfeisiadau, Oes Fictoria, y Jyngl, ac ati. Mae hyn wedi galluogi plant i ddysgu am y pynciau hyn, ond hefyd i sianelu eu dychymyg i greu rhywbeth o’r adnoddau a ddarperir.

Mae’r disgo distaw yn ffordd hwyliog o wneud rhywfaint o waith Rhifedd, Llythrennedd a Daearyddiaeth trwy gemau bach gan ddefnyddio cerddoriaeth. Mewn sesiwn awr o hyd, mae’r plant yn canu ac yn dawnsio i ganeuon adnabyddus, gan brofi eu sgiliau Mathemateg, creadigrwydd a’u gwybodaeth Ddaearyddol drwy gerddoriaeth. Daw’r sesiwn i ben gyda chwis ar gerddoriaeth ffilmiau, sydd bob tro’n boblogaidd! 

Nod Cynnydd Chwareus yw ychwanegu elfennau chwareus i bynciau a gweithgareddau addysgol, gan gael hwyl drwy chwarae. Mae’n ffordd effeithiol o feithrin hyder, datblygu sgiliau gweithio mewn tîm, caniatáu i greadigrwydd a dychymyg ffynnu mewn amgylchedd diogel a chwareus.

Mae pob sesiwn yn costio £50.

Amser Cinio Rhydd

Mae’r ddarpariaeth amser cinio hon yn galluogi plant i ddefnyddio rhannau rhydd i wella eu hamser chwarae yn yr ysgol.

Mae ein staff yn cyrraedd yr ysgol gyda fan yn llawn o adnoddau, ac maent yn hwyluso’r chwarae fel bo’r angen.

Prif nod y prosiect hwn yw cyfoethogi’r amgylchedd chwarae yn yr ysgol, gan roi mwy o gyfleoedd chwarae i blant gydag amrywiaeth o adnoddau. Mae hefyd yn eirioli dros hawl plant i chwarae ac yn addysgu am bwysigrwydd chwarae o safbwynt yr ysgol.

Mae pob sesiwn yn costio £50.

Hyrwyddwyr Eco

Mae hon yn rhaglen 5 wythnos ar gyfer plant i’w haddysgu am 5 maes allweddol.

Rhaglen pum sesiwn o hyd sydd wedi’i anelu’n bennaf at ddisgyblion Blwyddyn 6, neu ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 lle mae’r dosbarthiadau yn rhai cymysg.  Bydd pob sesiwn awr o hyd yn canolbwyntio ar thema amgylcheddol wahanol:

  • Wythnos 1 – Bioamrywiaeth
  • Wythnos 2 – Ynni 
  • Wythnos 3 – Cynaliadwyedd
  • Wythnos 4 – Newid Hinsawdd 
  • Wythnos 5 – Gweithredu Amgylcheddol 

Mae’r rhaglen yn cyfuno gwybodaeth amgylcheddol allweddol gyda gweithgareddau rhyngweithiol sy’n seiliedig ar chwarae.  Yn ystod y sesiwn olaf, bydd disgyblion yn defnyddio’r Cyfrifiannell Carbon Ysgol i helpu i nodi ffyrdd y gall yr ysgol ddatblygu ei fentrau carbon a bioamrywiaeth ei hun.

Ariennir y prosiect hwn gan y tîm Bioamrywiaeth ac mae’n rhad ac am ddim i’r holl ysgolion.

 Lles Chwarae

Nod Lles Chwarae yw ei fod yn ymyrraeth strwythuredig yn yr ysgol sy’n defnyddio chwarae fel offeryn i wella gwytnwch, cefnogi rheoleiddio emosiynol, gwella sgiliau cymdeithasol, a hybu lles cyffredinol.

Rhaglen bwrpasol 12 wythnos o hyd sy’n seiliedig ar chwarae sydd wedi’i ddylunio i gefnogi plant gyda’u rheolaeth emosiynol, lles, hyder a datblygiad cymdeithasol.

Mae pob sesiwn yn archwilio thema wahanol trwy weithgareddau chwarae hwyliog, difyr a phwrpasol, gan roi cyfleoedd i blant ddeall a mynegi eu hemosiynau, datblygu strategaethau ymdopi, meithrin perthnasau cadarnhaol a gweithio fel rhan o dîm.

Cysylltwch â ni am gost y prosiect hwn. 

Archwilwyr Chwarae

Prosiect byw yn y gwyllt sy’n caniatáu i blant archwilio sgiliau newydd yn yr awyr agored.

Prosiect chwe wythnos o hyd sy’n cyfuno natur a chwarae i annog plant i archwilio, dysgu a datblygu yn yr awyr agored.  Gall y gweithgareddau gynnwys adeiladu cuddfannau, cynnau tân, adeiladu cynefinoedd, heriau sy’n seiliedig ar natur a llawer mwy.

Mae’r prosiect yn archwilio’r manteision corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol o chwarae wrth annog plant i ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol a dysgu ohono.

Cost y prosiect hwn yw £400.

 Ein Hadborth