天涯社区

Alert Section

Derbyn i Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 - Medi 2027)

A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2015 a 31 Awst 2016?
A fyddan nhw’n 11 oed erbyn 31 Awst, 2027?

Os felly, bydd eich plentyn yn cael y cyfle i ddechrau ym Mlwyddyn 7 mewn ysgol Uwchradd ym mis Medi 2027.


Os oes gennych chi blentyn ym mlwyddyn 6 ar hyn o bryd, gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd drwy defnyddio’r ffurflen gais ar y dudalen hon.

Os oes gennych chi gwestiwn, fe gewch chi ddod o hyd i Gwestiynau Cyffredin yma.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

Nid oes gwell amser erioed wedi bod i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.

Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.

Darganfyddwch mwy am Addysg Cyfrwng Cymraeg.


Cynllun Trochi Uwchradd Sir y Fflint

Os nad yw dysgwyr wedi derbyn addysg Gymraeg, nid yw hi’n rhy hwyr i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Cynllun Trochi Uwchradd yn helpu dysgwyr nad ydynt wedi derbyn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.


Sut i wneud cais

Nodwch - Os hoffech wneud cais am le yng Ngorllewin Swydd Gaer a Chaer, rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i dderbyniadau ysgol Gorllewin Swydd Gaer a Chaer – ni allwn brosesu, na rhannu data, unrhyw gais ar gyfer unrhyw ysgolion yng Ngorllewin Swydd Gaer a Chaer.

Bydd ceisiadau ar gyfer yr ysgolion hyn dim yn cael eu prosesu.

Nodwch - Os ydych chi’n breswylydd yn Sir Ddinbych neu Wrecsam, ac eisiau gwneud cais am ysgol yn Sir y Fflint, rhaid i chi wneud cais drwy eich Awdurdod Lleol cartref, a bydd ceisiadau’n cael eu rhannu gyda ni.

Byddwch yn ymwybodol o'r amserlen gyhoeddedig ar gyfer pob Awdurdod Lleol.

Ar gyfer lleoedd ysgol uwchradd 2027:

  • Rhaid i chi wneud cais ar y 'Porth Rhieni Derbyniadau Synergy' ar-lein.
  • Mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar amser rhwng 1 Medi 2026 a 31 Hydref 2026.
  • Gellid cyflwyno ceisiadau hwyr rhwng 1 Tachwedd 2026 a 4 Ionawr 2027 - ond bydd y rhain yn cael eu prosesu ar ôl pob cais a gafodd eu cyflwyno’n ar amser. Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau nag sydd o leoedd ar gael mewn ysgol, bydd ceisiadau'n cael eu graddio gan ddefnyddio'r meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig.
    Byddwn yn rhoi lleoedd i geisiadau ar amser yn gyntaf, ac yna i geisiadau hwyr os oes lleoedd ar gael ar ôl.   
  • Mae hyn yn golygu y gall cais ar amser ar gyfer myfyriwr sy'n byw pellter sylweddol o ysgol benodol fod yn llwyddiannus, tra efallai na fydd cais hwyr ar gyfer myfyriwr sy'n byw yn agos iawn at yr ysgol. Mae'n bwysig iawn eich bod yn cyflwyno'ch cais ar amser er mwyn osgoi siom.
  • Gallwch gyflwyno cais am le mewn ysgol uwchradd ar ôl 4 Ionawr 2027, ond bydd y rhain yn cael eu prosesu ar ôl Diwrnod Cynnig 1 Mawrth 2027 (yn unol â’n hamserlen)
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn e-bost i gadarnhau bod eich cais wedi’i gyflwyno.

Os ydych chi wedi gwneud cais am le mewn ysgol drwy , gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif i weld eich cais (Mewngofnodwch a chliciwch ar 'Rheoli Cyfrifon').

Newid cais ar ôl ei gyflwyno

Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi dad gyflwyno eich cais drwy eich cyfrif ar '' a chyflwyno un newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i dad gyflwyno cais, bydd rhaid i chi e-bostio admissions@flintshire.gov.uk i ofyn am hyn.

Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau’n cael eu hystyried fel ceisiadau ar amser.  Gallwch wneud unrhyw newidiadau o fewn y cyfnod hwn ac ni fydd hyn u cael effaith ar statws ar amser eich cais.

Fodd bynnag, os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais a gyflwynwyd yn brydlon ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.