天涯社区

Alert Section

Derbyn i Ddosbarth Derbyn (Medi)

A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022?
A fyddan nhw’n 4 oed erbyn 31 Awst, 2026?

Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth derbyn ym Medi 2026.


Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-amser, i ddechrau Ysgol Gynradd (Dosbarth derbyn) ym mis Medi 2026 oedd 17eg Tachwedd 2025.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ar 16eg Ebrill 2026.

Gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu

Gan eich bod bellach yn gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (23ydd Chwefror 2026), ni ellir prosesu’r cais tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (2il Mawrth 2026).

Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais rhwng 22ain Medi 2025 a 23ydd Chwefror 2026, byddwch yn cael canlyniad hwn ar y dyddiad cynnig (16eg Ebrill 2026).


Bydd rhagor o ddiweddariadau ynghylch y cais newydd hwn yn unol â’r amserlen isod.

Amserlen ar gyfer derbyniadau Derbyn
Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni:Cyfnod i’r rhieni ystyried:Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni:Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd:Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”)Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 24ydd Chwefror a 15fed Mai 2026

22/09/25

7yb

22/09/25
-
17/11/25
17/11/25 18/11/25
-
23/02/26

16/04/26

8yb

E-bost yn rhoi gwybod am y dyraniad wedi’i anfon ar neu cyn 1af Mehefin

Os oes gennych chi gwestiwn, fe gewch chi ddod o hyd i Cwestiynau Cyffredin yma.