天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Cynllun Lesio Cymru

Mae Cynllun Lesio Cymru yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan awdurdodau lleol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i berchnogion eiddo lesio eu fflat neu eu t欧 i'w hawdurdod lleol am incwm rhent misol gwarantedig didrafferth.

Fe’i cynlluniwyd i wneud rhentu preifat yng Nghymru yn fwy hygyrch a fforddiadwy, gan gynnig cyfle i berchnogion eiddo fanteisio ar grantiau a chael incwm gwarantedig wrth ddarparu tai diogel, hirdymor a fforddiadwy i denantiaid.


Manteision i berchnogion eiddo

  • Incwm rhent gwarantedig didrafferth am hyd y les (ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol) – sy’n golygu na fydd unrhyw ôl-ddyledion rhent na chyfnodau pan fydd yr eiddo’n wag.
  • Grant o hyd at £25,000 i ddod â’r eiddo i safon rhentu.*
  • Grant o hyd at £5,000 i gynyddu sgôr ynni eich eiddo.*
  • Lesoedd rhwng 5 ac 20 mlynedd.
  • Archwiliadau eiddo, atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw (ar gyfer traul rhesymol i’r eiddo).
  • Rheolaeth lawn o’r eiddo a’r tenant am oes y les.

*Yn amodol ar delerau ac amodau.