Cafodd y cyfrifiad diweddaraf, sydd yn cael ei gynnal bob deg mlynedd gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 yng Nghymru a Lloegr.
 
Mae’r cyfrifiad yn casglu gwybodaeth ynghylch poblogaeth ac yn ein helpu i ddeall y genedl a sut ydym yn byw. Mae gwybodaeth o’r cyfrifiad yn helpu gyda phenderfyniadau o ran sut mae cyllid ac adnoddau yn cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, megis addysg, gwasanaethau cymdeithasol a ffyrdd.
Cyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 ar 28 Mehefin 2022, ac roedd yn cynnwys amcangyfrif o nifer y bobl ac aelwydydd sydd yng Nghymru a Lloegr. Maent yn dangos y nifer y bobl yn ôl rhyw ac oed ar lefel awdurdod lleol.
Yn Sir y Fflint, ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021:
- Roedd amcangyfrif o gyfanswm poblogaeth y sir yn 155,000 (cynnydd o 152,500 yn 2011)
 
- Mae’r bobl hynny yn byw mewn, cyfanswm o 66,900 o anheddau.
 
- Yn 2021, Sir y Fflint oedd y seithfed yn y cyfanswm poblogaeth o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru, sydd yn ostyngiad o un lle yn y degawd diwethaf.
 
- Sir y Fflint sydd gan y boblogaeth fwyaf yng Ngogledd Cymru.
 
- Sir y Fflint yw’r 11eg sir â’r boblogaeth ddwysaf o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
 
- Mae gostyngiad o 3.0% o bobl 15 - 64 oed.
 
- Mae gostyngiad o 4.2% o blant dan 15 oed.
 
- Mae cyfran pobl 65+ oed yn y sir wedi cynyddu 21.4% (33,200 o bobl) o’i gymharu â 17.6% (26,838 o bobl) yn 2011.  
 
Cewch ragor o wybodaeth am y canlyniadau yn  (ONS).
Gweld mwy o ganlyniadau’r Cyfrifiad a gweld crynodeb o’r pynciau:
- Demograffeg a mudo: 
 
- Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig: 
 
- Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd: 
 
- Tai: 
 
- Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd: 
 
- Y  Gymraeg: 
 
- Addysg: 
 
Dysgwch beth i'w ddisgwyl o'r crynodebau pwnc mewn fideo Iaith Arwyddion Prydain