Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad AGGCC ar Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint
Published: 14/07/2017
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr adroddiad blynyddol gan Arolygiaeth Gofal
a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn ei gyfarfod ar ddydd Mawrth, 18
Gorffennaf.
Mae鈥檙 adroddiad hwn yn dilyn arolygiad ac adolygiad perfformiad gan AGGCC yn
ogystal 芒 gweithgaredd ymgysylltu drwy鈥檙 flwyddyn ac mae鈥檔 ardystiad cadarnhaol
o ddiogelwch a gwasanaethau a darpariaeth gofal o safon.
Mae llawer iw ddathlu ar 么l perfformiad cryf gyda llawer o elfennau cadarnhaol
i amlygu. Mae hyn o fewn cyd-destun galw cynyddol ar y gwasanaeth, mwy o
gymhlethdod o ran angen a sefyllfa gyllidebol heriol iawn.
Prif thema AGGCC y llynedd oedd gofalwyr a diogelu oedolion; bydd gweithredu鈥檙
trothwyon diogelu newydd a chanllawiau yn parhau fel blaenoriaeth ar gyfer y
flwyddyn nesaf.
Mae鈥檙 adroddiad yn rhoi sylwadau cadarnhaol ar ddatblygiad y Gwasanaeth
Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn y Gwasanaethau Oedolion a鈥檙 Ganolfan Help
Cynnar yn y Gwasanaethau Plant.
Mae uchafbwyntiau pellach yn cynnwys:
Trawsnewid y gwasanaethau anableddau dysgu;
Datblygu mentrau cymdeithasol;
Ymrwymiad cynyddol i wasanaethau iaith Gymraeg;
Cynyddu鈥檙 cyfleoedd i bobl gael dweud eu dweud wrth lunio comisiynu strategol;
Ymrwymiad cryf i bartneriaethau strategol;
Ymgysylltiad cryf gyda鈥檔 darparwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn asesiad da on perfformiad y llynedd.
Asesiad cyffredinol y Cyngor yw bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i yrru
gwelliannau mewn gwasanaethau ac mewn sefyllfa dda i ymateb ir amgylchedd
ariannol heriol, ond hefyd yn realistig ynghylch maint yr her. Nid ydym yn
hunanfodlon, ac rwyf yn falch or gwaith da sydd wedi cael ei gyflawni ar draws
y bwrdd.鈥
Mae blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn cynnwys:
gweithredu鈥檙 canllawiau diogelu newydd, y mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i鈥檞
blaenoriaethu i sicrhau bod oedolion, pobl ifanc a phlant yn cael eu diogelu,
cefnogaeth a ddarperir i bobl gydag anghenion iechyd meddwl a phenderfyniadau
am leoliadau ar gyfer plant sy鈥檔 derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.