天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Deddf Tai (Cymru) 2014 - Digartrefedd

Published: 14/07/2017

Caiff adroddiad sy鈥檔 dangos sut mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi lleihau digartrefedd ei drafod gan Aelodau Cabinet ddydd Mawrth (18 Gorffennaf). Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 ddeddfwriaeth digartrefedd newydd ym mis Ebrill 2015. Cafodd gwasanaeth digartrefedd yn Sir y Fflint ei ailstrwythuro i gynyddu capasiti, fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer yr aelwydydd sy鈥檔 gofyn am gymorth ac mae鈥檙 gwasanaeth yn rhagweld pwysau ychwanegol oherwydd cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys cyflwyno Credyd Cynhwysol a fydd yn arwain at fwy o deuluoedd yn wynebu caledi ariannol ac angen cymorth. Mae Sir y Fflint yn cynnig nifer o wasanaethau newydd i reoli digartrefedd yn y Sir. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys cynigion i osgoi unrhyw achosion o gysgu ar y stryd. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: 鈥淢ae鈥檙 Cyngor wedi ymrwymo i atal digartrefedd, fel rydym wedi dangos drwy鈥檙 gwaith helaeth rydym wedi鈥檌 wneud. Byddwn yn parhau gyda鈥檙 gwaith hwn. Rydym yn mynd tu hwnt i鈥檔 dyletswydd statudol ac yn darparu llety dros dro i unrhyw un sydd heb unman i aros, waeth beth yw eu statws angen blaenoriaethol. 鈥淢ae ein dyraniad cyllid pontio gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithredu鈥檙 ddeddfwriaeth newydd wedi鈥檌 leihau i 拢130,000 eleni, ac rydym yn disgwyl mai hon fydd y flwyddyn olaf y bydd cyllid ychwanegol ar gael. Rwy鈥檔 falch o ddweud bod Sir y Fflint wedi鈥檌 ganmol gan Shelter Cymru ar sut mae鈥檔 defnyddio鈥檙 cyllid hwn. Fodd bynnag, mae nifer o heriau cenedlaethol a phwysau allanol, gan gynnwys diwygio lles a chyllidebau sy鈥檔 lleihau, sy鈥檔 gwneud ein gwaith yn fwy heriol.鈥 Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae tai wedi bod yn flaenoriaeth i Sir y Fflint ers tro. Ar ben y gwaith presennol sy鈥檔 cael ei wneud, rydym am archwilio dull cwbl wahanol sy鈥檔 ceisio lleihau rhywfaint o drawma digartrefedd. Mae Tai yn Gyntaf yn ddull gwahanol sy鈥檔 ceisio gorffen defnyddio llety dros dro drwy ailfeddwl sut rydym yn ymdrin 芒 digartrefedd yn gyfan gwbl. 鈥淓in cynnig yw datblygu cynllun 鈥楾ai yn Gyntaf鈥 mewn partneriaeth 芒 landlordiaid cymdeithasol a gwasanaethau cynnal. Mae argaeledd llety yn golygu y bydd hwn yn ateb addas mewn achosion cyfyngedig yn unig ond gallai chwarae r么l sylweddol o ran atal digartrefedd, aros mewn llety gwely a brecwast a symud diangen i bobl sengl ddiamddiffyn neu deuluoedd gyda phlant.鈥 Mae Tai yn Gyntaf yn fodel a ddefnyddir yn eang yng Nghanada, UDA a rhai gwledydd yn Ewrop i bobl gydag anghenion cefnogaeth canolig ac uchel ac mae wedi bod yn effeithiol o ran pobl yn cynnal eu llety a lleihau eu defnydd o lety dros dro, gwasanaethau iechyd brys, carchardai a gwasanaethau eraill. Gallai Model Tai yn Gyntaf ar raddfa fach gael ei weithredu o fewn adnoddau presennol yn yr adran Tai. Os caiff ei weithredu鈥檔 llwyddiannus, gall y fenter hon leihau pwysau ar wasanaethau statudol drwy leihau derbyniadau ir ysbyty, dedfrydau yn y carchar, costau gwasanaethau iechyd meddwl a chyffuriau ac alcohol yn ogystal 芒 lleihau achosion o droi pobl allan a llety dros dro.鈥