Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Amserlen Rheoli Cynaliadwy Mynydd Helygain
Published: 14/07/2017
Bydd gofyn i Gabinet Gyngor Sir y Fflint nodi menter gydweithredol ym Mynydd
Helygain a chefnogir cais am grant o gynllun rheoli cynaliadwy Llywodraeth
Cymru.
Diben y cynllun rheoli cynaliadwy yw cefnogi prosiectau tirlunio cydweithredol
i wella gwydnwch ein hadnoddau naturiol a鈥檔 hecosystemau mewn modd sydd hefyd
yn darparu buddion i fusnesau fferm a chymunedau gwledig.
Yn dilyn datganiad o ddiddordeb llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru wedi
gwahodd cais ar gyfer Comin Mynydd Helygain.
Mae Mynydd Helygain yn gomin 2000 erw unigryw, sydd wedi鈥檌 ddynodi yn Ardal
Cadwraeth Arbennig am ei ystod eang o gynefinoedd. Mae anifeiliaid wedi bod yn
pori yno ers canrifoedd a bu llawer o gloddio am blwm, gan adael olion
diwydiannol diddorol iawn wedi鈥檜 gwasgaru ar draws y dirwedd agored. Mae
rheoli鈥檙 mynydd yn her. Mae pwysau hamdden, cwn a thraffig wedi cyfrannu at
ostyngiad yn niferoedd yr anifeiliaid sydd yn pori yno sydd yn arwain at
lechfeddiant gan brysgwydd.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淓rs 2008, pan luniwyd strategaeth ar gyfer Mynydd Helygain a phan ffurfiwyd
gweledigaeth nid yn unig i gadwr dreftadaeth ddiwylliannol ragorol, ond hefyd
i sicrhau bod y comin yn cael ei borin effeithiol i gyflawni ei botensial
ecolegol, mae鈥檙 Cyngor, ynghyd 芒 sefydliadau eraill, wedi bod yn gweithio i
droir weledigaeth hon yn realiti.
鈥淏ydd y prosiect cyffrous hwn yn sicrhau ein bod ar y llwybr cywir i
gyflawni鈥檙 weledigaeth honno. Y dyddiad cau i gyflwyno cais am grant ydi 1
Medi, a bydd y cynllun arfaethedig yn rhedeg rhwng 1 Ionawr 2018 a 31 Mawrth
2021.鈥