Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grwp Enfys yn cael amser gwych yn Ardal Addysg Parc Wepre
Published: 12/07/2017
Ymwelodd Grwp Enfys 1af Nannerch 芒 Pharc Wepre ar gyfer rhwydo yn y pwll a
sesiwn bwystfil bach yn defnyddio Ardal Addysg y parc.
Cafodd y plant amser gwych yn dod o hyd i amryw o chwilod gan gynnwys pryf cop
y cynhaeaf, gwenyn a chwilod tarian yn y dolydd a badwyr dwr a madfall larfal
yn y pwll trochi.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn
Thomas:
鈥淢ae鈥檙 Ardal Addysg yn ardal dysgu amgylcheddol gwych. Mae鈥檔 hanfodol dysgu
pwysigrwydd natur i鈥檔 blant o oedran cynnar fel eu bod yn dysgu parchu a
mwynhau鈥檙 byd yr ydym yn byw ynddo. Darllenais ystadegyn os nad yw plentyn yn
cael cyswllt gyda natur erbyn y byddant yn ddeuddeg oed, maent yn llai tebyg o
ymgysylltu gyda natur pan fyddant yn oedolyn a byddant yn colli allan ar lawer
o gyfoeth a ddaw drwy fod allan yn yr amgylchedd naturiol.鈥
Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad, Stephen Lewis a gynhaliodd y sesiwn chwilio am
chwilod:
鈥淢ae鈥檙 Ardal Addysg yn hafan bywyd gwyllt heb gwn, gyda dolydd llawn blodau a
phwll ffantastig i drochi ynddo. Mae鈥檙 ardal Addysg ar gael i鈥檞 defnyddio am
ddim, archebu trwy gais. Os hoffai unrhyw grwpiau neu ysgolion archebu
gweithgareddau o dan arweiniad ceidwad, anfonwch e-bost ataf,
stephen.lewis@flintshire.gov.uk codir 拢1.50 fesul plentyn am 2 awr o sesiwn
(lleiafaswm o 拢30 fesul grwp) neu 拢2.50 fesul plentyn am sesiwn 4 awr
(lleiafswm o 拢50 fesul grwp), syn werth da iawn am arian.
Llun: Ceidwad Cefn Gwlad, Stephen Lewis, aelodau o Grwp Enfys 1af Nannerch ac
arweinydd Dawn Guest.