Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun y Cyngor
  		Published: 10/07/2017
Bydd Cynllun y Cyngor, Cyngor Sir Y Fflint yn cael ei ystyried yn y Pwyllgor 
Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaeth dydd Iau, 13 Gorffennaf.
 
Mae鈥檙 Cynllun ar gyfer 2017-23 wedi鈥檌 adolygu a鈥檌 ddiwygio i adlewyrchu prif 
flaenoriaethau鈥檙 Cyngor ar gyfer y tymor pum mlynedd o鈥檙 weinyddiaeth newydd.
 
Yn dilyn lefelau parhaus o galedi, mae enw鈥檙 Cynllun wedi newid o fod yn 
Gynllun Gwella i 鈥淕ynllun y Cyngor鈥 a bydd yn canolbwyntio ar gynnal 
gwasanaethau cyhoeddus 芒 blaenoriaeth gan ddangos uchelgais mewn meysydd i 
ddatblygu ar gyfer y dyfodol.
 
 Mae strwythur y cynllun yn parhaur un fath 芒 chynlluniau blaenorol ac yn 
cynnwys chwe blaenoriaeth sy鈥檔 canolbwyntio ar effaith ac is-flaenoriaethau 
perthnasol, yn hytrach nag wyth. Mae鈥檙 chwe blaenoriaeth yn edrych yn yr 
hirdymor ar brosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf.   Sef:
 
路 Cyngor sy鈥檔 Gefnogol
路 Cyngor Uchelgeisiol
路 Cyngor sy鈥檔 Dysgu
路 Y Cyngor Gwyrdd
路 Cyngor Cysylltiedig
路 Cyngor sy鈥檔 Gwasanaethu
 
Mae drafft terfynol o Gynllun y Cyngor yn ganlyniad o ystyriaethau gan y 
Pwyllgorau Archwilio a Chraffu o fewn eu cylch gorchwyl perthnasol. Bydd y 
Cynllun Cyngor terfynol ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Medi unwaith y bydd 
wedi鈥檌 ardystio gan y Cyngor Sir.
 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 
鈥淢ae鈥檙 Cynllun hwn yn gosod ein prif flaenoriaethau i gefnogi a gwella bywydau 
preswylwyr. Mae rhai o鈥檔 blaenoriaethau yn 2017-18 yn cynnwys ehangu 
darpariaeth o gartrefi fforddiadwy i breswylwyr mewn angen; diogelu pobl rhag 
tlodi, gyda phwyslais penodol ar dlodi tanwydd a bwyd; galluogi pobl i fywn 
annibynnol yn ogystal 芒 bod gartref, gan osgoi unrhyw dderbyniadau diangen i鈥檙 
ysbyty; gweithio gyda phartneriaid i gynnal twf economaidd a chynyddu cyfleoedd 
cyflogadwyedd; datblygu isadeiledd cludiant y sir i gynnwys system cludiant 鈥 
Metro鈥 integredig. 
 
鈥淵n ychwanegol i鈥檙 blaenoriaethau hyn, rydym yn anelu i weithio i gefnogi plant 
a phobl ifanc i gyflawni eu potensial; gwella鈥檙 amgylchedd naturiol a hyrwyddo 
mynediad i鈥檙 mannau agored a gwyrdd. Er y caledi ariannol parhaus, byddwn yn 
parhau i fod yn ymrwymedig ac uchelgeisiol fel Cyngor i barhau i ddarparu ar 
gyfer ein cymunedau lleol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac 
Asedau: 
 
鈥淢ae鈥檙 cynllun wedi鈥檌 ddiwygio a鈥檌 ddiweddaru i adlewyrchu prif 
flaenoriaethaur Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf.  鈥淢aer Cyngor yn gwneud 
cynnydd da a chyson mewn meysydd a amlygwyd fel blaenoriaethau.  Mae鈥檙 Cynllun 
hefyd yn cynnwys materion cenedlaethol a lleol a allai effeithio ar ein 
blaenoriaethau.  Y peth pwysig yw bod Sir y Fflint yn parhau i gyrraedd a 
rhagori ei dargedau ac yn gosod blaenoriaethau newydd i ddatblygu鈥檙 perfformiad 
i gynnal y perfformiad cadarn y Cyngor bob blwyddyn.鈥