Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor
  		Published: 10/07/2017
Bydd gofyn i鈥檙 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir Y 
Fflint gefnogi a datblygu鈥檙 fframwaith ar gyfer adolygu鈥檙 Strategaeth Ariannol 
Tymor Canolig (MTFS) 2018/19 pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.
 
Mae鈥檙 adroddiad yn nodi adolygiad cychwynnol o鈥檙 sefyllfa gyfredol ar gyfer 
2018/19. Bydd gwaith pellach yn dilyn hyn ar ragweld sefyllfa ariannol ar gyfer 
y blynyddoedd yn y dyfodol gyda鈥檙 bwriad i ddatblygu MTFS sydd yn rhagweld 
sefyllfar Cyngor hyd at 2022.
 
Y 鈥渂wlch鈥 a ragwelir ar gyfer 2018/19 rhwng incwm a gwariant yw 拢11.7M ar hyn o 
bryd.  Bydd proses gosod cyllideb ac amserlen yn cael ei gyhoeddi gan y Cabinet 
yn fuan.   Mae ail-fabwysiadu鈥檙 MTFS yn gam cyntaf pwysig yn y broses gosod 
cyllideb flynyddol a fydd hefyd yn ystyried pwysau gofal cymdeithasol, 
gweithlu, lleol a chenedlaethol yn ogystal 芒 chwyddiant.
 
Mae hyn ar ben yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol maer Cyngor wedi gwneud 
dros nifer o flynyddoedd wrth ddiogelu gwasanaethau a swyddi lleol, er ei fod 
yn Gyngor sy鈥檔 derbyn lefel isel o gyllid.
 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 
鈥淢ae arnom angen gweithio鈥檔 galetach nag erioed i gynllunio a darparu 
gwasanaethau hanfodol y cyngor yn y cyfnod parhaus o galedi ariannol.  Mae Sir 
y Fflint yn gyngor sy鈥檔 derbyn lefel isel o gyllid, ac oherwydd hyn, mae鈥檔 fwy 
agored i effeithiau鈥檙 gostyngiadau blynyddol sylweddol wrth gyfuno gydag 
anghenion cynyddol ein preswylwyr ar gyfer gwasanaethau allweddol megis gofal 
cymdeithasol.  Rwy鈥檔 credu bod cefnogaeth a dealltwriaeth gynyddol y cyhoedd o 
realiti bod rhaid i鈥檙 Llywodraeth weithredu ar unwaith i ddadwneud effeithiau 
caledi os ydym am amddiffyn gwasanaethau鈥檔 llwyddiannus ar gyfer y dyfodol.
 
鈥淢ae pob maes gwasanaeth y Cyngor yn destun adolygiadau manwl a pharhaus, ac 
mae gofyn sut y gallant ymateb ir pwysau digynsail gyda chostau. Opsiynau 
effeithlonrwydd cyfyngedig sydd gan y Cyngor heb orfod lleihau gwasanaethau i 
lefelau annerbyniol o ddarpariaeth gwasanaeth.鈥