Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		ESGYN i鈥檙 GIG
  		Published: 30/06/2017
Mae dynes leol wedi bod ar leoliad gwaith 6 wythnos o hyd diolch i raglen Esgyn 
Cyngor Sir y Fflint.
Cofrestrodd Lisa Jones o Gei Connah ar raglen Esgyn yn 2016 ac mae wedi bod yn 
ddi-waith ers 4 blynedd. Mae hi ar hyn o bryd ar Leoliad Gwaith Gwirfoddol yng 
nghymuned Glannau Dyfrdwy fel Cymhorthydd Gofal Iechyd.  Cyfeiriwyd Lisa at y 
rhaglen lwyddiannus, Camu i Waith, syn cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd 
Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gan ei bod wedi dangos diddordeb mewn Iechyd 
a Gofal.
I鈥檞 pharatoi i fynd ar y lleoliad gwirfoddol, cafodd Lisa hyfforddiant yn 
Ysbyty Maelor Wrecsam ac fe enillodd ei Phasbort GIG yn ogystal 芒 chwblhau cwrs 
e-ddysgu a drefnwyd gan BIPBC.    
Wrth s么n am ESGYN, dywedodd Lisa: 
 鈥淩oeddwn i鈥檔 frwd dros weithio i鈥檙 GIG gan fy mod i wastad wedi bod eisiau 
gweithio fel nyrs.  Mi ydw i a fy ngwr, Cliff, a fydd yn dechrau gweithio鈥檔 
fuan fel gyrrwr tacsis diolch i raglen Esgyn, wedi bod gartref yn gofalu am ein 
7 plentyn.  Roedd y ddau ohonon ni鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd dod yn 么l i weithio, 
ond mae hyn bellach yn teimlo鈥檔 bosib鈥, diolch i Esgyn sydd wedi ein hannog a鈥檔 
paratoi ni.  鈥橣yddwn i erioed wedi cael y cyfle hwn pe na fyddwn i wedi cael y 
cymorth un-i-un rydw i wedi鈥檌 gael gan Esgyn a BIPBC.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint:
 鈥淢ae Esgyn Sir y Fflint yn rhaglen wych sy鈥檔 helpu pobl sydd heb fod mewn 
gwaith ers chwe mis neu fwy drwy roi鈥檙 hyder a鈥檙 hyfforddiant y maen nhw eu 
hangen i ddilyn y llwybrau gyrfa maen nhw鈥檔 eu dewis.  Dechreuodd tri o bobl ar 
leoliadau eleni fel Cymorthyddion Gofal Iechyd a Phorthor yn Ysbytai Cymunedol 
Treffynnon a Glannau Dyfrdwy ac Ysbyty Maelor Wrecsam.  Mae鈥檙 criw nesaf o naw 
o gleientiaid eisoes yn gwneud cynnydd da o ran eu hyfforddiant ac maent wedi 
bod mewn 2 weithdy gan y GIG.鈥
Dywedodd Mandy Hughes, Rheolwr Moderneiddio Gweithlu BIPBC:
 鈥淩ydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu lleoliadau gwaith 芒 chymorth i鈥檙 rhai sydd 
bellaf oddi wrth y farchnad waith ar hyn o bryd drwyr rhaglen Camu i Waith.  
Mae鈥檙 Bwrdd Iechyd yn falch o lwyddiant y partneriaethau syn cefnogir rhaglen 
ac maen gweithio gydar Ganolfan Byd Gwaith, Cymunedau yn Gyntaf, Esgyn ac 
Agoriad ac mae pob un yn darparu cymorth estynedig i鈥檙 gwirfoddolwyr.  Mae鈥檙 
rhaglen yn gweithio i gefnogi pobl i ddod o hyd i waith hirdymor.鈥
Mae Adran Datblygur Gweithlu a Datblygu Sefydliadol BIPBC ac Esgyn Sir y 
Fflint yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod cleientiaid yn cyflawni鈥檙 
rhaglen Camu i Waith heb drafferth.  
Mae 3 dyddiad ar gyfer y sesiynau nesaf i dorri鈥檙 i芒 wedi鈥檜 trefnu鈥檔 barod, sef:
Dydd Iau 3 Awst 9am-12pm
Dydd Iau 12 Hydref 9am-12pm
Dydd Iau 16 Tachwedd 9am-12pm
Lleoliad: yr Hen Lys, Heol yr Eglwys, y Fflint
I archebu lle yn un o鈥檙 sesiynau uchod, ffoniwch Clive neu Debbie ar 01244 
846090.
Llun: Debbie Barker, Mentor Esgyn; Lisa Jones, Nyrs Staff; Heidi Graham, 
Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd; Anna Tapworth; a Clive Rowland, Mentor Esgyn.