Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ysgrifennydd Y Cabinet dros Addysg yn ymweld ag ysgol leol
  		Published: 29/06/2017
Bu i Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg Cymru ymweld ag Ysgol Bryn Deva yng 
Nghei Connah heddiw (dydd Iau, 29 Mehefin).
Roedd hi yno i edrych ar y prosiect 鈥淭ouching the Sku鈥 a 鈥淐hlwb Seren Bach鈥 
sydd wedi cael eu cydnabod fel arfer rhagorol gan Estyn yn eu hadroddiad yn 
2016.  
Disgyblion Ysgol Bryn Deva ywr plant cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn 
prosiect i wella eu lefelau ffitrwydd, eu Cymraeg llafar a鈥檜 lefelau 
cyrhaeddiad academaidd.
Bu i鈥檙 ysgol, gan weithio ar y cyd 芒 Phrifysgol Glyndwr, sefydlu prosiect o鈥檙 
enw 鈥淭ouching the Sky.鈥.   Roedd ffitrwydd y plant iau yn cael eu profi ac 
wedyn, dros yr 8 mis canlynol, roeddynt yn cymryd rhan mewn gwahanol 
weithgareddau i baratoi ar gyfer taith gerdded i fyny鈥檙 Wyddfa, ac mi wnaethant 
hynny ar 26 Mai eleni.
 
Dywedodd Steve Thomas, Arweinydd Addysg Gorfforol Bryn Deva:
鈥淔el ysgol rydym eisiau hybu bywyd iach gan gynnwys gweithgareddau corfforol a 
diet iach, i wella lles cyffredinol ein plant.  Hyd yma mae wedi cael effaith 
bositif iawn ar ein disgyblion.鈥
Mae鈥檙 ysgol hefyd wedi sefydlu 鈥楥lwb Seren Bach鈥 er mwyn gwella perfformiad 
academaidd a chymdeithasol i ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen sydd yn cael 
trafferth ymdopi 芒 gosodiad dosbarth llawn.  
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淐afodd Ysgol Bryn Deva ganlyniadau gwych yn eu harolygiad Estyn y llynedd am 
eu gwaith partneriaeth, gofal, cefnogaeth a chanllaw ac mae astudiaeth achos 
arfer orau wedi鈥檌 gyhoeddi gan Estyn.  Mae鈥檙 ysgol yn rhan o Astudiaeth 
Thematig Arfer Orau Estyn ar sut mae ysgolion yn ymgysylltu ag argymhellion yn 
dilyn adroddiad Donaldson, gan arbenigo, fel yn achos Bryn Deva, mewn lles.  
Rwy鈥檔 falch o allu dangos i鈥檙 Gweinidog bod un o鈥檔 hysgolion yn enghraifft dda 
o hyrwyddo lles disgyblion fel rhan ganolog o鈥檙 cwricwlwm.鈥
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg Kirsty Williams: 
鈥淏ydd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn gosod materion iechyd a lles wrth 
wraidd addysg 鈥 rydym eisiau i鈥檔 pobl ifanc adael yr ysgol yn unigolion iach 
hyderus. Mae鈥檙 gwaith sydd yn digwydd yma ym Mryn Deva yn wych ac roedd hin 
bleser siarad gyda phlant a staff.鈥