Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llwyddiant i ysgol Sir y Fflint
  		Published: 26/06/2017
Fe wnaeth Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint gefnogi disgyblion o Ysgol Maes 
Hyfryd yn y Fflint yn ddiweddar, a gymerodd ran mewn prosiect Menter yr Ifanc.  
Cafodd t卯m y prosiect Tymhorau Hyfryd eu hariannun rhannol gan Gymunedau yn 
Gyntaf, ac roedd yr ysgol yn llwyddiannus, gan ennill y Cyflwyniad T卯m Gorau yn 
Rownd Derfynol Menter yr Ifanc Cymru yng Nghaerdydd.  
Fe wnaeth t卯m menter o ddeg disgybl chweched dosbarth ddatblygu model busnes i 
ddarparu cynhyrchion poblogaidd a gwasanaethau am bris rhesymol.  Fe wnaed y 
cyfan gan y myfyrwyr, mae eitemaun cynnwys cardiau ar gyfer bob achlysur a 
chrefftau tymhorol ar gyfer digwyddiadau arbennig.  
Mae eu cwsmeriaid yn fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr 芒鈥檙 ysgol.  Eu nod oedd bod yn 
d卯m effeithiol a gweithio鈥檔 galed iawn i wneud y gorau y gallent fod.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
Ddatblygu Economaidd:
鈥淢ae hwn yn llwyddiant anhygoel gan y myfyrwyr hyn.  Rwy鈥檔 falch iawn eu bod 
wedi ennill y wobr fawreddog hon ond, nid yn unig hynny, rwy鈥檔 falch iawn a 
dylent hwythau hefyd fod yn falch iawn o beth maent wedi鈥檌 gyflawni.鈥
Dywedodd Beverley Moseley, swyddog gyda Chymunedau yn Gyntaf:
鈥淔e wnes i fynd i鈥檙 digwyddiad, ac fe roddodd y myfyrwyr gyflwyniad llawn hwyl, 
a oedd yn rhoi digon o wybodaeth i鈥檙 gynulleidfa, a chafwyd llawer o 
ganmoliaeth gan y beirniaid pan wnaethant ddarparur canlyniadau. 
Mae Menter yr Ifanc yn elusen arweiniol y DU syn grymuso pobl ifanc i 
gofleidio eu sgiliau personol a busnes, maen gweithion uniongyrchol gyda 
phobl ifanc, eu hathrawon a busnesau.  Mae ei rhaglenni cyflogadwyedd ymarferol 
ac addysg ariannol wedi鈥檜 cyflwyno i sawl ysgol yn ardaloedd Cymunedau yn 
Gyntaf yn Sir y Fflint.