Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datganiad Cyngor Sir y Fflint: The Heights; y Fflint
Published: 21/06/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn nifer o geisiadau yn ceisio sefydlu a ywr
system cladin a ddefnyddiwyd ar Dwr Grenfell yn Llundain yr un system 芒
ddefnyddiwyd ar 么l cwblhau gwaith adnewyddu sylweddol ar y tri bloc twr yn y
Fflint, a elwir 鈥楾he Heights鈥�
Oherwydd yr ymchwiliadau parhaus yn dilyn y digwyddiadau gofidus a thrasig yn
Nhwr Grenfell ni fyddai鈥檔 briodol i鈥檙 Cyngor nodi union fanylion y system na鈥檙
cynnyrch a ddefnyddiwyd ar yr adeilad hwnnw. Fodd bynnag, mae鈥檙 system ar waith
yn dilyn adnewyddu 鈥楾he Heights鈥� yn defnyddio gwahanol gydrannau a dull
gwahanol i鈥檙 hyn y de毛llir a ddefnyddiwyd yn Nhwr Grenfell.
Cwblhaodd Cyngor Sir y Fflint y prosiect adnewyddu gyda鈥檙 Prif Gontractwr, SERS
ac yn ystod y broses ddylunio, cafodd sawl dull a dewis o ddeunydd cladin eu
hymchwilio. Cafodd y dewis terfynol o ddull adeiladu ei ddewis i gynyddu
diogelwch ein tenantiaid yn The Heights. Roedd y rhaglen adnewyddu a
gynhaliwyd yn cynnwys nifer o fesurau amddiffynnol, y mwyaf sylweddol oedd
gosod system chwistrellu a ddyluniwyd i reoli t芒n yn gyflym pe bai un yn
digwydd.
Mae gan y Cyngor raglen barhaus o asesiadau risg t芒n a ddyluniwyd i fonitro,
asesu a gwella mesurau diogelwch t芒n ar gyfer ein holl stoc dai. Mae鈥檙
asesiadau hyn yn cael eu rhannu gyda Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru ar
gyfer arsylwadau annibynnol.
Bydd y Cyngor a Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiad i
roi sicrwydd yr wythnos hon i denantiaid y cyngor lle bydd staff y gwasanaeth
t芒n ac achub a鈥檙 cyngor ar gael i ateb cwestiynau ac i roi gwybodaeth.
Mae鈥檙 Cyngor yn cydymdeimlo ac mae ein meddyliau鈥檔 parhau gyda鈥檙 dioddefwyr a鈥檜
teuluoedd a鈥檙 rhai yr effeithiwyd arnynt yn nigwyddiadau trychinebus Twr
Grenfell.