Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathlu llwyddiant yr iaith Gymraeg 
  		Published: 21/06/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dathlu llwyddiant athrawon a chymhorthwyr dosbarth 
sydd wedi cwblhau cyrsiau Cymraeg yn ystod y flwyddyn.  
Mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty鈥檙 Beaufort Park, roedd athrawon a 
chymhorthwyr dosbarth o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ar draws y sir yn 
derbyn gwobrau a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd 
sy鈥檔 gorffen a鈥檌 olynydd Claire Homard. 
Meddai Ian Budd:
鈥淢ae digwyddiadau fel hyn yn bwysig nid yn unig i ddathlu llwyddiant ein 
gweithlu i wella eu sgiliau iaith Gymraeg ond hefyd i gyfnerthu ymrwymiad cryf 
Sir y Fflint i鈥檙 iaith Gymraeg.    Trwy ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn 
Addysg, rydym yn cefnogi pobl o bob oed i wella eu sgiliau iaith Gymraeg a 
rhoi鈥檙 hyder iddynt ddefnyddio鈥檙 iaith yn eu bywyd bob dydd.鈥 
Dywedodd Rhian Roberts, Rheolwr t卯m Ymgynghorol y Gymraeg yn Sir y Fflint:
鈥淢ae hyfforddi staff wedi bod yn uchel ar agendar t卯m ers sawl blwyddyn ac 
mae鈥檔 parhau鈥檔 elfen hanfodol o鈥檔 gwaith.   Mae鈥檔 bwysig iawn fod gan ein 
gweithlu鈥檙 sgiliau iaith angenrheidiol i ddarparu gwaith priodol i oed a digon 
heriol i ddisgyblion.   Mae athrawon a chymhorthwyr dosbarth hefyd wedi 
manteisio ar y cyfle i ddilyn cyrsiau Sabathol Cymraeg a ddarperir gan 
Brifysgol Bangor ar y cyd 芒 Llywodraeth Cymru.  Byddwn yn parhau i weithio ar y 
flaenoriaeth hon i sicrhau y gall Sir y Fflint gwrdd 芒 heriau targed 
Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.鈥