天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Casglu treth y cyngor yn Sir y Fflint

Published: 20/06/2017

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth ei drigolion, ywr Cyngor syn perfformio orau yng Nghymru o ran casglu Treth y Cyngor. Ym mlwyddyn ariannol 2015-16, casglodd y Cyngor 98.1% o Dreth y Cyngor dyledus yn ystod y flwyddyn, sy鈥檔 llawer uwch na鈥檙 cyfartaledd cenedlaethol o 97.4%. Mae hyn yn golygu mai Sir y Fflint yw鈥檙 Cyngor sy鈥檔 perfformio orau yng Nghymru. Y ffigwr casglu hwn yw hefyd y lefel uchaf o gasgliadau a gyflawnwyd gan Sir y Fflint ac mae hyd yn oed yn welliant o 0.12% ar ffigwr casglu鈥檙 llynedd. Mae hefyd yn dangos, er gwaethaf yr heriau ariannol a wynebir gan y Cyngor i reoli gostyngiadau mawr yn y grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Ganolog, rydym yn parhau i wellar ffordd rydym yn gweithredu, trwy ei gwneud yn haws i drigolion dalu eu biliau, cael mynediad in gwasanaethau ac yn arbennig cefnogaeth i鈥檙 rhai sy鈥檔 cael trafferthion talu. Wrth s么n am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 鈥淓r gwaethaf yr hinsawdd ariannol heriol i lawer on trigolion, gan gynnwys heriau ariannol sylweddol a wynebir gan y Cyngor i gynnal gwasanaethau cyhoeddus ond gyda llai o adnoddau, mae casglu treth y cyngor yn effeithlon yn hanfodol i amddiffyn gwasanaethau lleol i drigolion Sir y Fflint. 鈥淩ydym yn falch o鈥檔 llwyddiannau a chael cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru fel Cyngor gyda record ragorol o gasglu trethi lleol. Rydym ni hefyd yn cydnabod y gall rhai teuluoedd ei chael hi鈥檔 anodd talu, ac rydym nin annog unrhyw un syn cael trafferth talu i gysylltu鈥檔 fuan 芒鈥檙 Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 fel y gallwn ni ddarparu cymorth ac arweiniad ymarferol ar y ffordd orau o dalu.