Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cam arall ymlaen i foderneiddio ysgolion Sir y Fflint
  		Published: 16/06/2017
Mae contractwr lleol wedi鈥檌 ddewis i godi adeilad newydd Ysgol Penyffordd. 
Mae Wynne Construction o Fodelwyddan wedi鈥檌 ddewis i godi鈥檙 ysgol gynradd 
newydd hon ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd yr ysgolion babanod ac iau presennol 
yn cael eu dymchwel a bydd yr ysgol i blant 3-11 oed yn uno ar safle Abbotts 
Lane. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys creu maes parcio gwell a mwy ar gyfer 
staff ac ymwelwyr a chreu mannau gollwng i rieni a gofalwyr. Bydd y cyfleuster 
yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig i blant oed cynradd.
Mae鈥檙 prosiect ar gam cynnar iawn a bydd cyfleoedd i bob parti 芒 diddordeb 
ddweud ei ddweud. Bydd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 
safle Abbotts Lane ar 11 Gorffennaf, o 3.30pm tan 7pm, lle bydd cyfle i鈥檙 
cyhoedd siarad efo鈥檙 contractwyr a鈥檙 t卯m sy鈥檔 rhan o鈥檙 gwaith o ddatblygu鈥檙 
ysgol newydd hon.
Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn cynnwys neuadd, stiwdio ac ystafelloedd 
dosbarth ar gyfer disgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 
2 (cyfanswm o 315 o ddisgyblion. Bydd y cae a鈥檙 ardaloedd chwaraeon yn cael eu 
cadw.
Nid oes dyddiad eto ar gyfer dechraur gwaith ond mae鈥檙 contractwr wedi sicrhau 
na fydd y gwaith yn tarfu鈥檔 ormodol ar y dysgwyr na鈥檙 gymuned. Bydd yr adeilad 
newydd yn cael ei godi yn ystod y tymor ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淒yma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 
Sir y Fflint. Bydd yn gyfleuster modern a rhagorol ar gyfer plant, pobl ifanc 
a鈥檙 gymuned ehangach.鈥 
Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: 鈥淩ydym ni鈥檔 falch 
iawn ein bod wedi ein dewis i ymgymryd 芒 gwaith adeiladu鈥檙 prosiect newydd 
cyffrous yma, ac rydym ni鈥檔 edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, 
yr ysgol ar gymuned i ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a buddion 
cymunedol parhaol, gan gynnwys cyflogaeth a hyfforddiant. 
Mae鈥檙 cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei sicrhau ar hyn o bryd drwy raglen 
Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Bydd arian cyfatebol yn cael ei 
geisio ar sail 50:50 gyda Chyngor Sir y Fflint yn darparu 50%. Mae鈥檙 prosiect 
hwn yn dilyn gorffen Campws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched Dosbarth Glannau 
Dyfrdwy yn llwyddiannus, a鈥檙 cyhoeddiad diweddar y bydd rhaglen foderneiddio yn 
dechrau yn ddiweddarach eleni yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.
Am fwy o wybodaeth ewch i 
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/School-Modernisation-Related/Ho
me.aspx neu anfonwch e-bost at 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk. Gallwch 
hefyd ddilyn moderneiddio ysgolion ar Twitter, @FCCSchoolMod.