天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd 鈥 16 Mehefin

Published: 14/06/2017

Adroddiad Gwastraff Yn ei gyfarfod ar ddydd Gwener 16 Mehefin, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd yn ystyried y newidiadau sy鈥檔 cael eu cynllunio i wasanaeth casglu gwastraff y Cyngor, a fydd yn cynyddu鈥檙 mathau o ddeunyddiau y gall preswylwyr eu hailgylchu bob wythnos. Mae鈥檙 Cyngor wrthi鈥檔 prynu cerbydau casglu gwastraff newydd a fydd yn galluogi ystod ehangach o blastig, gan gynnwys potiau iogwrt a hambyrddau bwyd a batris cartref, i gael eu gwahanu o鈥檙 gwastraff cyffredinol sy鈥檔 cael ei gasglu鈥檔 wythnosol. Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn ymdrin 芒 threfniadau gweithredol yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor, a fydd yn cynorthwyo鈥檙 Cyngor i wneud y mwyaf o lefelau ailgylchu yn y safleoedd a lleihau faint o wastraff syn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 鈥淏ydd y newidiadau hyn yn gwella鈥檙 amgylchedd, yn arbed arian ac yn helpu i sicrhau fod y Cyngor yn cyrraedd y targedau heriol i bob Cyngor yng Nghymru ar gyfer ailgylchu, sydd wedi鈥檜 gosod gan Lywodraeth Cymru.鈥 A494/A55 Ymgynghori Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal proses ymgynghori eang ar y gwelliannau arfaethedig i A494/A55, y porth mewn i Gymru. Fe fydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn trafod ymateb arfaethedig y Cyngor i鈥檙 cynigion yn ei gyfarfod, ddydd Gwener 16 Mehefin. Mae鈥檙 llwybr o bwysigrwydd strategol i economi Sir y Fflint a gogledd Cymru, ac mae tagfeydd ar y ffordd, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur, wedi cael effaith fawr ar y rhwydwaith priffyrdd lleol a busnesau yn y Sir. Fe fydd y pwyllgor yn edrych ar fanteision ac anfanteision y ddau ddewis a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru cyn gwneud argymhellion i fynd gerbron Cabinet y Cyngor yr wythnos nesaf. Fe fydd y Cabinet yn dod i benderfyniad ar yr ymateb ffurfiol i鈥檙 ddogfen ymgynghori. Parcio Ceir Fe fydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd yn ystyried strategaeth parcio ceir y Cyngor pan fydd yn cwrdd, ddydd Gwener 16 Mehefin. Cyflwynodd y Cyngor ei strategaeth parcio ceir ym mhob tref yn y Sir yn ystod 2015, er mwyn sicrhau bod gofodau parcio ar gael i siopwyr ac ymwelwyr i ganol trefi am gost fechan iawn. Cafodd taliadau eu hatal yng nghanol tref y Fflint, yn sgil y gwaith ailddatblygu a oedd yn mynd rhagddo ar y pryd. Serch hynny, mae mwyafrif y gwaith yn nes谩u at y diwedd, fe fydd y pwyllgor yn trafod manylion cyflwyno taliadau yn raddol ym meysydd parcio鈥檙 dref. Fe fydd y pwyllgor hefyd yn trafod y posibilrwydd o ddarparu parcio arhosiad byr am ddim ar y stryd yn y Fflint, Bwcle a Threffynnon, drwy newid y gorchmynion traffig presennol yng nghanol y trefi a bydd yn gwneud argymhelliad i Gabinet y Cyngor ar gam cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion.