Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		’The Great Get Together’ ar Fehefin 16,17 18
  		Published: 08/06/2017
Mae gwasanaeth Celfyddydau Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint wedi bod yn 
gweithio gyda Llyfrgelloedd Sir y Fflint i drefnu cyfres o ddigwyddiadau ar 
draws y sir sy’n rhan o ‘The Great Get Together’, sydd wedi ei ysbrydoli gan Jo 
Cox.
Mae’r rhain yn ddigwyddiadau am ddim sydd wedi eu trefnu i ddod â phobl ynghyd 
o fewn eu cymunedau, i wneud ffrindiau newydd ac i ddod i adnabod ei gilydd.
Dydd Gwener Mehefin 16
Llyfrgell Treffynnon: Bore Coffi 11am-12pm
Llyfrgell y Fflint: Bore Coffi am 11am yn dilyn y sesiwn rigymau am 10.15am.
Llyfrgell Cei Connah: Sesiwn ymarfer corff yn defnyddio matiau ar gyfer Babanod 
a’u Gofalwyr 11.30am-12.30      
Sesiwn Symud Tai Chi yn defnyddio cadeiriau ar gyfer pob lefel o ffitrwydd 1-2pm
Llyfrgell Yr Wyddgrug: Coffi a Chacen ar Sgwâr Daniel Owen 10.30-11.30am (neu 
yng Nghanolfan Daniel Owen yn dibynnu ar y tywydd) mewn partneriaeth â Chyngor 
Tref Yr Wyddgrug
Dydd Sadwrn Mehefin 17 
Llyfrgell Bwcle: Bore Coffi 10am-12pm
Am fwy o wybodaeth am bob un o’r digwyddiadau uchod cysylltwch â’ch llyfrgell 
leol os gwelwch yn dda. 
Theatr Clwyd – Picnic ar Ben y Bryn
Dydd Sadwrn o 12 (hanner dydd) – 2pm mae Theatr Clwyd yn cael Picnic ar Ben y 
Bryn fel rhan o ‘The Great Get Together’. Bydd yn digwydd gerllawr theatr a 
bydd yn cynnwys gweithgareddau llawn hwyl, gemau a cherddoriaeth fyw mewn 
amgylchedd hamddenol ar gyfer teuluoedd. Gwahoddir teuluoedd i ddod â phicnic 
gyda nhw neu bydd bagiau picnic ar gael o gaffi’r theatr am £3.00. Os yw’r 
tywydd yn wael bydd yr hwyl yn digwydd y tu mewn ir theatr, yn Ystafell Clwyd.
Os ydych am drefnu digwyddiad yn eich ardal ewch i wefan ‘The Great Get 
Together am gyngor defnyddiol www.greatgettogether.org, neu cysylltwch â 
Gwenno Eleri Jones yng Nghyngor Sir y Fflint ar 01352 704271 neu 
gwenno.e.jones@flintshire.gov os ydych eisiau cymorth i hyrwyddo eich 
digwyddiad drwy wefan Cyngor Sir y Fflint. Ynglyn â ‘The Great Get Together’: 
Mae gwefan ‘The Great Get Together yn nodi: Mae ‘The Great Get Together’ wedi 
ei ysbrydoli gan Jo Cox a laddwyd ar Fehefin 16 y llynedd. Yr hyn rydym eisiau 
ei wneud yw dod â’n cymunedau ynghyd a dathlu popeth sy’n ein huno. Hwn yw ein 
cyfle.
Teulu a ffrindiau Jo feddyliodd am y fenter, ac mae’r Cinio Mawr wedi ymuno â 
ni er mwyn symud eu dathliad blynyddol. Mae dros gant o sefydliadau nawr yn ein 
cefnogi, edrychwch ar ein tudalen bartneriaid am y rhestr lawn!
Mae’r penwythnos hwn wedi ei ysbrydoli gan Jo Cox, ond rydym yn disgwyl i bobl 
gymryd rhan am nifer o resymau.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.greatgettogether.org