Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Archwilio, Darganfod a Dathlu Wythnos Natur Cymru!
  		Published: 08/06/2017
Ymunwch â miloedd o bobl ar draws Cymru i gymryd rhan mewn amrywiaeth o 
weithgareddau bywyd gwyllt a chael eich ysbrydoli gan fyd natur! Dewch i 
ddathlu bywyd gwyllt amrywiol Cymru. O adar a gwenyn ein gerddi, blodau ac adar 
ein harfordir i fywyd gwyllt ein pyllau a’n hafonydd -  mae byd natur Cymru yn 
syfrdanol. Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, o deithiau 
cerdded, heriau, a phicnics, i weithgareddau ymarferol, sesiynau gwybodaeth a 
digwyddiadau i’r teulu cyfan – oll yn ymwneud â bywyd gwyllt a natur. Mae’r 
gweithgareddau yn addas i bob oed ac yn ffordd wych i chi ddysgu am amgylchedd 
naturiol eich bro a’i bwysigrwydd i’n lles. 
Bydd Sir y Fflint yn cynnal ac yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau rhad ac am 
ddim, gan gynnwys: 
- Picnic tedi bêrs (thema natur wrth gwrs) yn yr ardal addysg ym Mharc Gwepra 
ddydd Gwener yma, 9 Mehefin, am 3.30. Galwch heibio ar ôl ysgol i gymryd rhan 
mewn gweithgareddau ymarferol a lluniaeth – cofiwch ddod â’ch tedi bêr efo 
chi!  
- Helfa drysor ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, dydd Sadwrn 10 Mehefin o 
10am tan 12pm. 
- A byddwn yn darganfod mwy o fywyd gwyllt cyffrous yn ystod diwrnod darganfod 
i’r teulu cyfan yn Nyffryn Rhyd-y-mwyn ddydd Sul, 11 Mehefin, o 10am tan 4pm. 
Galwch heibio i fwynhau amrywiaeth o arddangosfeydd celf a hanes naturiol, yn 
ogystal â gweithgareddau ymarferol. 
Ymunwch â’r dathliadau a darganfyddwch ein bywyd gwyllt arbennig!
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi! 
Dilynwch ni – @WBP_wildlife #WNC2017
Neu ein tudalen Facebook leol - https://www.facebook.com/NEWBioNet/