Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cofiwch ddefnyddio eich pleidlais
  		Published: 06/06/2017
Dydd Iau 8 Mehefin yw’r diwrnod y bydd etholwyr Sir y Fflint yn cael lleisio 
barn ynglyn âr rhai syn eu cynrychioli yn etholaethau Seneddol Alun a Glannau 
Dyfrdwy a Delyn.
Dylai pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio fod wedi derbyn cerdyn yn nodi 
manylion yr orsaf bleidleisio lle gallant fwrw eu pleidlais.  Nid oes angen i 
chi ddod â hwn ar y diwrnod ond, os nad ydych wedi derbyn cerdyn, gofynnwn i 
chi ffonio 702329 neu 702412 er mwyn cael gwybod ym mhle mae eich gorsaf 
bleidleisio – efallai na fydd yr un fath âr tro diwethaf i chi bleidleisio!
Beth ddylech chi ei wneud ar 8 Mehefin? 
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ac maent ar 
agor o 7am tan 10pm ddydd Iau, 8 Mai.  Pan gyrhaeddwch, bydd gofyn i chi 
gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad ac fe gewch eich papur pleidleisio.  Er mwyn 
nodi eich dewis, rhowch ‘X wrth ymyl enw’r ymgeisydd rydych am iddynt eich 
cynrychioli.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, 
bydd staff ar gael i’ch helpu. 
Os nad ydych wedi pleidleisio mewn gorsaf o’r blaen, ewch i wefan y Comisiwn 
Etholiadol; www.fymhleidlaisi.co.uk er mwyn cael gwybod mwy am ba mor syml yw 
gwneud hynny.
Os ydych wedi gwneud cais am bleidlais bost, dylech fod wedi derbyn eich papur 
pleidleisio erbyn hyn – os nad ydych, ffoniwch 01352 702327, 702329 neu 702412 
ar unwaith, os gwelwch yn dda.