Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ysgol yn gwahodd pêl-droediwr i redeg milltir
  		Published: 05/06/2017
Bu i Graeme Sharp, un o s锚r clwb p锚l-droed Everton, ymweld ag Ysgol Estyn yn 
ddiweddar. 
Ymwelodd 芒鈥檙 ysgol i gefnogi lansiad y Filltir Ddyddiol yn Sir y Fflint, menter 
iechyd a lles i blant sy鈥檔 ceisio cynyddu gweithgarwch corfforol mewn ysgolion 
cynradd a dosbarthiadau meithrin drwy annog disgyblion i gerdded, loncian neu 
redeg am 15 munud pob dydd, beth bynnag y tywydd. Mae鈥檙 Filltir Ddyddiol yn 
helpu i wella iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol 
plant, ac yn 么l athrawon mae鈥檙 plant hefyd yn canolbwyntio鈥檔 well ar 么l 
dychwelyd i鈥檙 ystafell ddosbarth.
Mae鈥檙 Filltir Ddyddiol yn cael ei lansio yn Sir y Fflint gan Datblygu 
Chwaraeon, a ariannwyd gan Chwaraeon Cymru, yn dilyn lansiad cenedlaethol yng 
Nghymru fis Mawrth 2017 gan Sefydliad y Filltir Ddyddiol, Llywodraeth Cymru ac 
Iechyd Cyhoeddus Cymru. 
Mae Ysgol Estyn yn un o sawl ysgol yn Sir y Fflint sy鈥檔 ymgymryd 芒鈥檙 her ac fe 
groesawodd y disgyblion Graeme i lansio鈥檙 rhaglen yn eu hysgol. Meddai Graeme 
ar y diwrnod:
鈥淢ae鈥檔 braf bod yma heddiw a gweld yr holl bobl ifanc mor frwdfrydig dros 
gadwn heini. Mae arnom ni i gyd angen annog plant i fod yn iach a gwneud 
ymarfer corff, ac mae hon yn ffordd lawn hwyl o wneud hynny.鈥
Eglurodd Pennaeth Ysgol Estyn, Gareth Jones, sut mae鈥檙 rhaglen o fudd i 
ddisgyblion:
鈥淢ae hon yn fenter boblogaidd iawn gyda鈥檙 athrawon a鈥檙 disgyblion fel ei 
gilydd. Pan maen nhw鈥檔 dychwelyd i鈥檙 dosbarth mae鈥檙 plant yn llawn bywyd, wedi 
dadflino, yn barod i ddechrau gweithio unwaith eto gyda mwy o egni ac maen 
nhwn canolbwyntio鈥檔 well.鈥
Nod y Filltir Ddyddiol yw gwella iechyd a lles corfforol, meddyliol, emosiynol 
a chymdeithasol ein plant, beth bynnag eu hoedran a鈥檜 hamgylchiadau personol. 
Daeth y syniad gan Elaine Wyllie, enillydd un o wobrau Pride of Britain, pan 
oedd hi鈥檔 bennaeth ysgol gynradd fawr a chymhleth yn Stirling, yr Alban. Roedd 
Elaine yn pryderu ynghylch diffyg ffitrwydd plant St. Ninians ac felly 
dechreuodd eu hannog i redeg o amgylch cae鈥檙 ysgol am 15 munud pob dydd. O fewn 
mis roedd y plant yn mynd o amgylch y cae 5 gwaith sef, ar 么l mesur y pellter, 
un filltir 鈥 ac felly fe anwyd y Filltir Ddyddiol. Erbyn diwedd y flwyddyn 
ysgol roedd bob un o鈥檙 420 o blant yn cymryd rhan, gan gynnwys y dosbarth 
meithrin. 
Ers ymddeol yn 2015 mae Elaine yn treulio鈥檌 hamser yn datblygu Sefydliad y 
Filltir Ddyddiol. Cr毛wyd Sefydliad y Filltir Ddyddiol fis Mawrth 2016 gyda鈥檙 
nod o roi cyfle i bob plentyn gerdded/rhedeg milltir pob dydd, a heddiw mae 
dros 2,500 o ysgolion wedi ymuno 芒鈥檙 mudiad.
Mae鈥檔 syniad syml ac effeithiol, y mae modd i unrhyw ysgol gynradd ei 
weithredu. Gall yr effaith fod yn drawsffurfiol, gan wella ffitrwydd plant yn 
ogystal 芒u lefelau canolbwyntio, hwyliau, ymddygiad a鈥檜 lles cyffredinol. 
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.thedailymile.co.uk.
Gallwch hefyd gysylltu 芒鈥檙 sefydliad yn uniongyrchol ar info@thedailymile.co.uk 
neu drwy Facebook (/thedailymile.uk) a Twitter (@_thedailymile).
Chris Moss (Datblygu Chwaraeon Sir y Fflint), Graeme Sharp, Gareth Jones 
(Pennaeth) a Dan Williams (Datblygu Chwaraeon Sir y Fflint) gyda disgyblion 
Ysgol Estyn.