Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwobrau Busnesau Dementia-Gyfeillgar Bwcle
  		Published: 31/05/2017
Yn ddiweddar cynhaliodd Grwp Llywio Dementia-Gyfeillgar Bwcle, mewn 
cydweithrediad 芒 Chyngor Sir y Fflint, eu Gwobrau Busnes yn Neuadd Eglwys 
Bistre, Bwcle.
Dathliad oedd y digwyddiad o lwyddiant yr wyth busnes a sefydliad ym Mwcle sydd 
wedi   ennill statws 鈥楪weithio tuag at fod yn Ddementia Gyfeillgar鈥.
Llwyddodd y busnesau i gyflawni eu haddewid y byddent yn ceisio gwireddu o 
leiaf pedair gweithred o鈥檙 ymrwymiadau a restrir isod:
Ymrwymiad 1: Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff (camau鈥檔 cynnwys: 
penodi pencampwr dementia ar gyfer y sefydliad. Rhoi dealltwriaeth sylfaenol o 
ddementia i staff).
Ymrwymiad 2: Adolygu amgylchedd corfforol y siop/eiddo (camau gweithredu i 
gynnwys: arwyddion clir yn y siop; mynedfeydd wedi鈥檜 goleuo鈥檔 dda).
Ymrwymiad 3: Cefnogi staff sy鈥檔 dechrau datblygu symptomau dementia neu sy鈥檔 
gofalu am unigolyn 芒 dementia (camau i gynnwys: newid r么l unigolyn, darparu 
gwasanaeth cwnsela mewnol).
Ymrwymiad 4: Cefnogi鈥檙 gymuned leol (camau i gynnwys: codi arian, gwirfoddoli, 
partneriaeth elusennol)
Yr enillwyr oedd:
 路 Tafarn yr Horse and Jockey 
路 Glanhawyr Ffenestri Warburton  
路 Square Travel
路 Cartref Gofal Willowdale 
路 Eglwys Bistre 
路 Canolfan Windmill 
路 Coffee Truck
路 Cwmni Glanhau Michelle Cartwright 
Meddai Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Cynghorydd 
Christine Jones: 
鈥淒yma鈥檙 tro cyntaf i ni gynnal y gwobrau hyn ym Mwcle ac maen nhw wedi bod yn 
hynod lwyddiannus gan eu bod wedi helpu i godi proffil y salwch a dangos yr hyn 
y gall sefydliadau ei wneud er mwyn gwneud bywyd yn haws i bobl 芒 dementia a鈥檜 
teuluoedd.  Mae鈥檔 parhau 芒鈥檙 gwaith ardderchog sy鈥檔 cael ei wneud ledled y sir, 
er enghraifft agor caffis cof.鈥
Medda Ged Fitzpatrick, Cadeirydd Grwp Bwcle:
鈥淢ae ein grwp ni wedi gweithio鈥檔 galed iawn i godi ymwybyddiaeth o ddementia ac 
rydym wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau ac ysgolion lleol er mwyn sicrhau 
fod Bwcle yn rhywle lle bydd pobl sydd 芒 dementia yn cael eu deall, eu parchu, 
eu cefnogi ac yn cyfrannu at y gymuned leol.  
鈥淩ydym wedi cael cefnogaeth dda gan y t卯m yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol 
Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint.鈥
Am ragor o wybodaeth cysylltwch 芒 Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu 
luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk.
Yn y Llun: Jo Lane (Cymdeithas Alzheimer), y Parch Martin Batchelor, Ged 
Fitzpatrick, Luke Pickering-Jones (CSyFf), Sharon Wallace (cantores) a Rosie 
Robertson gyda鈥檌 mam.