Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ymgyrch Yfed a Gyrru Haf 2017
  		Published: 31/05/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch Yfed / Cymryd Cyffuriau a Gyrru 
Cymru gyfan a hoffent amlygu鈥檙 neges bwysig iawn hon.
Mae pob Heddlu yng Nghymru yn ymuno 芒鈥檌 gilydd am ymgyrch haf yn targedu pobl 
sy鈥檔 Yfed / Cymryd Cyffuriau a gyrru. 
Mae鈥檙 ymgyrch yn dechrau ar 1 Mehefin 2017.
Ar yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn, mae鈥檙 temtasiwn i yfed a gyrru hyd yn oed yn fwy 
gan fod pobl yn aml yn cael eu temtio i gael ychydig o ddiodydd a chymdeithasu 
gyda ffrindiau, heb feddwl am y peryglon o fynd tu 么l yr olwyn. 
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Carolyn Thomas: 
 鈥淩ydym eisiau i bobl fwynhau eu hunain dros fisoedd yr haf.  Ond, os byddwch 
chi鈥檔 mynd i ardd gwrw ar 么l gwaith neu i farbiciw gyda ffrindiau ar y 
penwythnos, rydym yn eich annog i feddwl sut byddwch chi鈥檔 mynd adref. Os ydych 
yn bwriadu yfed, galwch am dacsi, defnyddiwch gludiant cyhoeddus, arhoswch dros 
nos, trefnwch fod rhywun nad yw鈥檔 yfed yn gyrru a pheidiwch ag ildio i鈥檙 
temtasiwn i fynd i鈥檙 car gydag unrhyw un sydd wedi bod yn yfed!  Arhoswch yn 
ddiogel yr haf hwn.鈥 
Mae cyffuriau hefyd yn effeithio ar y ffordd rydych yn meddwl ac yn ymddwyn a 
gall hyn gael effaith sylweddol ar eich gallu i benderfynu a鈥檆h amseroedd 
ymateb. Byddwch yn gall ynglyn 芒 gyrru ar gyffuriau a meddyliwch cyn i chi fynd 
tu 么l i鈥檙 olwyn neu dderbyn lifft gan rywun os ydych yn gwybod nad ydynt mewn 
stad i yrru. Cofiwch, mae meddu ar gyffuriau anghyfreithlon yn drosedd a 
gallech dderbyn cosb drom gan gynnwys dirwy a/ neu ddedfryd o garchar neur 
bwriad o gyflenwi ac maer cosbaur un fath ac am yfed a gyrru; dirwy, 
gwaharddiad, a record droseddol.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol fod rhai cyffuriau ar bresgripsiwn a rhai y 
gallwch eu prynu dros y cownter fel meddyginiaeth ffliw hefyd effeithio ar eich 
gallu i yrru a darllenwch y label bod amser os ydych yn cymryd meddyginiaeth 
gan gynnwys gwrth-histaminau a thawelyddion. Os yw鈥檙 label yn eich cynghori i 
beidio gweithredu peiriannau trwm dylech ei ystyried yn rhybudd i beidio mynd 
tu 么l ir olwyn.
Rydym yn gwybod nad yw yfed a gyrrun cymysgu ac mae alcohol yn gyffur fel 
unrhyw un arall. 
Peidiwch ag yfed/ cymryd cyffuriau a gyrru. Peidiwch hyd yn oed ystyried y 
peth.