Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ymgynghoriad Cyngor Sir y Fflint ar Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn
  		Published: 31/05/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymgynghori 芒 phreswylwyr ar Orchymyn Gwarchod Mannau 
Cyhoeddus (GGMC) Rheoli Cwn arfaethedig ar gyfer y sir gyfan. 
Bwriad yr Orchymyn yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.   
Bydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd yn rhoi mwy o bwerau i roi 
troseddau dynodedig eraill mewn grym, fel gwahardd cwn yn llwyr neu orfodi cadw 
cwn ar dennyn mewn mannau penodol. Mae鈥檙 ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau dydd 
Iau, 1 Mehefin.
Mae鈥檙 cynigion yn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn yn 
cynnwys:                       
1. Baw cwn i gael ei symud yn syth o holl dir cyhoeddus. 
2. Gall swyddog awdurdodedig ofyn i unigolion syn mynd 芒鈥檜 cwn am dro i roi eu 
ci ar dennyn.    
3. Cwn i gael eu gwahardd o fannau chwarae gyda chaeau chwaraeon wedi鈥檜 marcio, 
mannau chwaraeon dynodedig, tir ysgol a mannau chwarae plant wedi鈥檜 ffensio.
4. Cwn i gael eu cadw ar dennyn mewn mynwentydd. 
5. Dylai unigolion sy鈥檔 mynd a鈥檜 cwn am dro sicrhau fod ganddynt ddull o gasglu 
baw cwn os gofynnir iddynt wneud hynny gan swyddog awdurdodedig. 
Os bydd un o鈥檙 rhain yn cael eu torri, bydd Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei 
roi.                         
Bydd yr Orchymyn, a fydd yn para am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd, yn cymryd 
lle鈥檙 Gorchymyn Rheoli Cwn cyfredol.
Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: 
鈥淩ydym yn gobeithio y bydd y Gorchymyn hwn yn helpu i gynorthwyo 芒 phroblemau 
baw cwn yn ogystal 芒 mynd ir afael 芒 phroblem o gwn yn crwydro鈥檔 rhydd mewn 
mannau cyhoeddus.    Yn amlwg mae hi鈥檔 bwysig bod ein hanifeiliaid anwes yn 
cael ymarfer corff, ond hefyd mae arnom angen sicrhau y gall aelodau eraill or 
cyhoedd ddefnyddio ein mannau gwag cyhoeddus yn ddiogel yn rhydd o wastraff 
cwn. 
Bydd yr ymgynghoriad yn agor ar 1 Mehefin ac yn cau ar 29 Mehefin 2017. Rydym 
yn gwerthfawrogi eich safbwyntiau, felly ewch i 
http://www.siryfflint.gov.uk/rheolicwnGGMC o 1 Mehefin i weld y gorchymyn 
drafft, yr atebion i gwestiynau cyffredin a map o鈥檙 safleoedd arfaethedig lle 
byddai鈥檙 gwaharddiadau yn cael eu gosod.    Yna, llenwch ein harolwg ar-lein ar 
amodaur Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn arfaethedig.   
Gellir gweld y dogfennau yn Neuadd Y Sir, Raikes Lane, yr Wyddgrug, CH7 6ND.  
Hefyd gallwch fynd i鈥檙 llyfrgell leol neu swyddfa Gysylltu lle gewch help i 
weld y dogfennau ar-lein.