Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyhoeddwyd yr Arweinydd a’r Cabinet
  		Published: 22/05/2017
Mae’r Cynghorydd Aaron Shotton wedi ei ail-ethol yn Arweinydd Cyngor Sir y 
Fflint yn y Cyfarfod Blynyddol dydd Iau 18 Mai.
Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 1999, etholwyd y Cynghorydd 
Shotton yn Arweinydd ym mis Mai 2012 yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol. 
Mae’r Cynghorydd Shotton wedi bod â chyfrifoldeb y Cabinet dros Gyllid ers mis 
Mai 2012. 
Mae’n cynrychioli Ward Canolog Cei Connah.  Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Tref 
Cei Connah ers 1996, ac ar yr adeg honno ef oedd y Cynghorydd Llafur ieuengaf 
yn y DU.  Hefyd bu iddo wasanaethu Cei Connah fel Cadeirydd y Cyngor Tref yn 
2003.
Y Cynghorydd Shotton hefyd ywr Dirprwy Arweinydd a Llefarydd dros Gyllid ac 
Adnoddau ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae’n Aelod o’r Cyngor 
Partneriaeth Cymru a Bwrdd Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol.
Cafodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei ail-ethol yn Ddirprwy Arweinydd. Mae 
wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 2004, etholwyd y Cynghorydd 
Attridge yn Ddirprwy Arweinydd ym mis Mai 2012 yn dilyn yr Etholiadau 
Llywodraeth Leol.  Bu ir Cynghorydd Attridge fod â chyfrifoldeb Cabinet dros 
yr Amgylchedd o 2012 tan 2017.  
Mae’n cynrychioli Ward Canolog Cei Connah ac yn aelod o Gyngor Tref Cei 
Connah.  Hefyd mae’n Gyfarwyddwr NEW Homes, cwmni tai fforddiadwy a sefydlwyd 
gan Gyngor Sir y Fflint.
Cyhoeddwyd aelodau’r Cabinet fel a ganlyn:
Cyllid – Cyng. Aaron Shotton
Strydwedd a Chefn Gwlad – Cyng. Carolyn Thomas
Datblygu Economaidd – Cyng. Derek Butler
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd – Cyng. Chris Bithell
Tai – Cyng. Bernie Attridge
Addysg a Phobl Ifanc – Cyng. Ian Roberts
Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyng. Christine Jones
Rheoli Corfforaethol ac Asedau – Cyng. Billy Mullin