Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Busnesau stryd fawr Sir y Fflint i elwa o ryddhad ardrethi ychwanegol 
  		Published: 19/05/2017
Bydd Sir y Fflint yn cael cyflwyno cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru a 
fydd yn darparu rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol i fasnachwyr Stryd Fawr Sir 
y Fflint dros y flwyddyn nesaf. 
Bydd y cynllun yn cynorthwyo llawer o fasnachwyr stryd fawr, gan gynnwys 
bwytai, tafarndai a chaffis, yn arbennig y rheiny sydd wedi gweld cynnydd yn eu 
hardrethi o ganlyniad i ailbrisiad Asiantaeth Y Swyddfa Brisio ,a ddaeth i rym 
fis  Ebrill. 
Bydd y cynllun yn darparu hyd at 拢1,500 o ryddhad ardrethi yn ystod 2017/18 i 
fusnesau sydd mewn eiddo masnachol stryd fawr sydd 芒 gwerth ardrethol o 拢50,000 
neu lai, gan gynnwys y busnesau hynny sydd wedi eu heffeithio yn negyddol gan 
yr ailbrisio diweddar. 
Er mwyn gwneud y mwyaf o鈥檙 swm o gefnogaeth y gellir ei ddarparu a sicrhau ei 
fod yn cael ei dargedu at yr ardaloedd a鈥檙 busnesau sydd 芒鈥檙 mwyaf o angen, 
bydd dwy haen o ryddhad ar gael. 
Bydd yr haen gyntaf yn berthnasol i fasnachwyr stryd fawr sydd 芒 gwerth 
ardrethol o rhwng 拢6,001 a 拢12,000 sydd eisoes yn derbyn rhyddhad ardrethi 
busnesau bach (SBRR) neu ryddhad ardrethi trosiannol . Byddant yn derbyn 
gostyngiad yn eu bil ardrethi o 拢500, neu  os yw eu bil yn llai na 拢500, bydd 
yn cael ei ddileu yn llwyr. 
Bydd yr ail haen o ryddhad yn berthnasol i fasnachwyr stryd fawr sydd 芒 gwerth 
ardrethol o rhwng 拢12,001 a 拢50,000 sy鈥檔 profi cynnydd mewn ardrethi o fis 
Ebrill ymlaen. Bydd y rhain yn derbyn gostyngiad yn eu bil ardrethi o 拢1,500. 
Mae manylion pellach am y cynllun, y meini prawf yn llawn  a ffurflen gais ar 
gael o www.flintshire.gov.uk/businessrates