Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Galw am noddwyr i gefnogi Gwobrau Busnes Sir y Fflint
  		Published: 17/05/2017
Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint ar ei newydd wedd gyda 
rhaglen newydd o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Ymhlith y rhain mae digwyddiadau鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cyfryngau cymdeithasol a 
phresenoldeb ar-lein, cyllid, twf busnes a chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo 
cyfleoedd lleol i fyfyrwyr ysgol a choleg. 
Bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sy鈥檔 hynod boblogaidd, yn parhau i gael eu 
cynnal yn Neuadd Sychdyn ar 20 Hydref.  
Eleni, serch hynny, bydd y t卯m yn agor y cyfleoedd noddi i fusnesau lleol.  
Mae鈥檙 digwyddiad pwysig hwn yn cefnogir gymuned fusnes yn y sir ac, yn 
gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmn茂au, i ddatblygu cyfleoedd 
masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddi ac mae noddi鈥檙 
digwyddiad yn ffordd wych o hybu eich busnes eich hun.
I fynegi diddordeb mewn dod yn noddwr 鈥 un ai鈥檙 prif noddwr ar gyfer y seremoni 
Wobrwyo, neu noddwr categori ar gyfer un o鈥檙 naw gwobr gaiff eu cynnig, 
cysylltwch os gwelwch yn dda 芒 Kate Catherall i gael ffurflen datgan 
diddordeb.  Bydd angen i ffurflenni datgan diddordeb sydd wedi eu cwblhau gael 
eu cyflwyno erbyn 31 Mai 2017 
Dywedodd Prif Swyddog dros Gymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden:
鈥淢ae ein noddwyr ar gyfer y Gwobrau Busnes dros y blynyddoedd wedi bod yn wych 
ac fe fydden i鈥檔 annog unrhyw fusnes i ystyried derbyn eich cynnig ynglyn 芒 
noddi a dangos y gwerth y gallwch ei gyflwyno i鈥檔 digwyddiad busnes enwog.鈥
Dyma鈥檙 categor茂au: 
1. Gwobr Prentisiaeth
2. Gwobr Busnes Gorau gyda dros 10 o weithwyr
3. Gwobr Busnes gorau i weithio ynddo
4. Gwobr Busnes Gorau gyda llai na 10 o weithwyr
5. Busnes Newydd Gorau
6. Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol
7. Gwobr Arloesedd, Technoleg a Menter Orau
8. Gwobr Unigolyn Busnes y Flwyddyn 
9. Gwobr Entrepreneur 
Am fanylion pellach ynglyn 芒 chyfleoedd noddi, cysylltwch 芒 Kate Catherall 鈥 
Swyddog Datblygu Busnes ar 01352 703221, neu kate.p.catherall@flintshire.gov.uk