Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cofrestrwch i bleidleisio yn etholiad cyffredinol Seneddol y DU
  		Published: 15/05/2017
Ar ddydd Iau, 8 Mehefin bydd pleidleiswyr yn mynd i鈥檙 gorsafoedd pleidleisio i 
ethol Aelodau Seneddol ar gyfer y ddwy etholaeth seneddol yn Sir y Fflint, 
Delyn ac Alun a Glannau Dyfrdwy.  Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw 
dydd Llun 22 Mai.   
Gall unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad presennol 
gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio  
Os na fyddwch yn gallu bwrw eich pleidlais yn bersonol ar 8 Mehefin, gallwch 
wneud cais i bleidleisio drwy鈥檙 post neu trwy ddirprwy. 
Mae pleidleisio drwy鈥檙 post yn ddewis hawdd a chyfleus yn lle pleidleisio鈥檔 
bersonol.   Yng Nghymru, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais drwy鈥檙 post ar 
gyfer etholiad cyffredinol y DU yw 5pm dydd Mawrth, 23 Mai.
Mae pleidlais trwy ddirprwy yn eich caniat谩u i enwebu unigolyn dibynadwy i fwrw 
eich pleidlais ar eich rhan.   Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio 
trwy ddirprwy yn etholiad cyffredinol y DU yw 5pm ar ddydd Mawrth, 31 Mai.
Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau:
鈥淕all unrhyw un sy鈥檔 amau o gwbl a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio ar 8 
Mehefin gysylltu 芒 Swyddfa鈥檙 Etholiadau ar 01352 702412.    
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol Cymru:
鈥淢ae ein gwaith ymchwil yn dangos bod pobl sydd wedi symud ty yn ddiweddar yn 
llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio.  Os ydych wedi symud ty yn y 
misoedd diwethaf, tydi gwneud cais i dalu treth y cyngor ddim yn golygu eich 
bod wedi cael eich ychwanegu at y gofrestr etholiadol.   Gellir cofrestru i 
bleidleisio ar lein ac maen cymryd llai na phum munud i lenwir ffurflen.