Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dewch i wybod beth sy鈥檔 digwydd yn y Fflint
  		Published: 15/05/2017
Mae digwyddiad gwybodaeth ir cyhoedd yn cael ei gynnal er mwyn arddangos y 
gwaith adeiladu sy鈥檔 cael ei wneud yn Sir y Fflint ar hyn o bryd.  
Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener 19 Mai, 9am-1pm yn Sinema Gaumont Plaza ar 
Stryd yr Eglwys a bydd cyfle i bawb ddysgu mwy am ddatblygiad tai Walks, 
cynllun tai gofal ychwanegol Llys Raddington a鈥檙 ganolfan iechyd newydd. 
Bydd cynrychiolwyr o bob partner datblygu鈥檔 bresennol, Cyngor Sir y Fflint, 
Grwp Tai Pennaf, Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Betsi Cadwaladr, i roi cyngor 
a gwybodaeth am yr holl ddatblygiadau. Bydd y partneriaid adeiladu hefyd yn 
bresennol 鈥 Wates Residential (The Walks), Anwyl Construction (Llys Raddington) 
a Read Construction (y ganolfan iechyd).  Bydd NEW Homes, y cwmni a sefydlwyd 
gan y Cyngor i gynyddu nifer y tai fforddiadwy ar gael i drigolion lleol, hefyd 
yn bresennol 芒 gwybodaeth am yr eiddo sydd ar gael.   
Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden:
鈥淢ae hwn yn gyfle gwych i arddangos yr hyn rydym wedi鈥檌 gyflawni yn Sir y 
Fflint hyd yma. Bydd datblygiad The Walks, sy鈥檔 rhan o Raglen Tai ac Adfywio 
Strategol y Cyngor, yn cynnwys 92 ty newydd ar gyfer bobl leol, gyda chymysgedd 
o dai 芒 2 neu 3 ystafell wely yn ogystal 芒 fflatiau ag 1 neu 2 ystafell wely, a 
bydd hyn yn sicr o adfywio canol y dref.鈥  
Dywedodd Steve Robinson, Rheolwr Gwasanaeth Gofal Ychwanegol ar gyfer 
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, a fydd yn rheoli Llys Raddington unwaith y bydd 
wedi鈥檌 gwblhau: 
鈥淢ae Llys Raddington yn ddewis ardderchog ar gyfer trigolion Sir y Fflint, sydd 
dros 60 mlwydd oed ac yn dymuno byw鈥檔 annibynnol. Mae鈥檙 fflatiau o ansawdd 
uchel ac yn addas ir rheiny 芒 phroblemau symudedd gyda thenantiaeth ddiogel a 
mynediad at ofal bob awr o鈥檙 dydd. Bydd y preswylwyr yn gallu manteisio ar yr 
ystod o gyfleusterau cymunedol fel bwyty, lolfa gymunedol, ymolchi gyda 
chymorth, ystafell westeion, man cadw sgwteri symudedd ac ystafell haul.  
鈥淢ae nifer eisoes wedi mynegi eu diddordeb yn y cynllun ac maer digwyddiad 
gwybodaeth ir cyhoedd yn gyfle gwych i bobl ddarganfod mwy a mynegi eu 
diddordeb mewn gwneud cais am fflat.  Disgwylir y bydd y cynllun wedi鈥檌 gwblhau 
erbyn gwanwyn 2018, er ei fod yn teimlon bell i ffwrdd, buan iawn y dawr 
dyddiad, felly rwyn eich cynghori chi i ddatgan eich diddordeb yn y cynllun ar 
unwaith. 
Dywedodd Margaret Hanson, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
鈥淩ydym yn edrych ymlaen at gyfarfod 芒r preswylwyr i drafod prosiect y ganolfan 
iechyd ymhellach.  Mae鈥檙 gwaith ar y safle yn mynd rhagddo鈥檔 dda ac edrychwn 
ymlaen at gwblhad y prosiect y flwyddyn nesaf.鈥