Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn cefnogi Pythefnos Gofal Maeth
  		Published: 10/05/2017
Bydd Pythefnos Gofal Maeth, sef ymgyrch recriwtio flynyddol i annog pobl i 
ystyried gyrfa ym maes maethu, yn dechrau ddydd Llun 8 Mai a bydd ymlaen tan 
ddydd Sul 21 Mai.
Mae gwasanaeth maethu Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r ymgyrch hon eleni a 
byddant yn cynnal sesiwn wybodaeth yng Ngwesty Springfield, Treffynnon nos 
Fawrth 16 Mai er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynglyn â bod yn ofalwr maeth.
Pythefnos Gofal Maeth yw’r ymgyrch fwyaf yn y DU i godi ymwybyddiaeth o ofal 
maeth ac mae’n cael ei drefnu gan yr elusen faethu flaenllaw, Y Rhwydwaith 
Maethu. Mae angen 9,070 o deuluoedd maethu newydd i ofalu am amryw o blant dros 
y 12 mis nesaf yn unig.  Mae’r angen mwyaf am ofalwyr maeth ar gyfer plant hyn, 
grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant anabl a phlant sy’n ceisio lloches ar eu 
pennau eu hunain.
Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Neil 
Ayling:
“Mae gennym eisoes 120 o deuluoedd lleol sy’n maethu gyda Chyngor Sir y Fflint 
ond mae angen mwy o ofalwyr arnom, yn arbennig ar gyfer plant 10 oed ac yn hyn. 
Rydym yn chwilio am deuluoedd, pobl sengl a chyplau lleol sydd â phlant hyn neu 
ddim plant ifanc yn y cartref. 
“Mae plant hyn yn aml wedi treulio blynyddoedd lawer yn tyfu i fyny mewn gofal 
maeth ac mae angen gofalwyr maeth newydd arnynt nawr i’w harwain ar hyd y 
llwybr cywir i flynyddoedd eu harddegau er mwyn tyfu’n oedolion llwyddiannus, 
gan ddysgu sgiliau byw megis coginio a rheoli arian, a chael help i wneud 
dewisiadau ynglyn â’u haddysg, gwaith a bywyd. Ambell waith mae plant hyn wedi 
byw mewn cartrefi teuluol caotig am nifer o flynyddoedd, a dyna’r oll y maent 
yn ei wybod, nes iddynt wneud y dewis eu hunain i adael, ac mae angen teuluoedd 
maeth arnynt i ddangos iddynt yr holl bethau y maent wedi’u methu mewn bywyd.
Mae’r gwasanaeth maethu hefyd yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o weithio gyda 
neu ofalu am bobl ifanc a allai gefnogi mamau, tadau neu deuluoedd sydd â 
babanod newydd anedig, gan eu dysgu am sgiliau gofal plant sylfaenol a monitro 
sut maent yn gofalu am eu babi. 
Meddai Neil Ayling:
“Mae maethu rhiant a phlentyn gyda’i gilydd yn aml yn golygu mam ifanc sydd heb 
gymorth teuluol nac unrhyw un i’w harwain ar sut i ofalu am ei babi. Mae angen 
gofalwr maeth profiadol arnom neu rywun sy’n gallu defnyddio eu sgiliau yn y 
gwaith, iw harwain a chamu yn ôl yn raddol iw galluogi i fyw bywydau 
llwyddiannus ar eu pennau eu hunain.
Cynhelir noson wybodaeth gwasanaeth maethu Sir y Fflint yng Ngwesty 
Springfield, ger Treffynnon am 7pm nos Fawrth 16 Mai. E-bostiwch 
fostering@flintshire.gov.uk i gofrestru i fynychu.
I gael gwybod mwy, ffoniwch 01352 701965 neu ewch i 
www.flintshirefostering.org.uk. 
Bydd y tîm maethu hefyd yn ateb cwestiynau cyffredin am faethu ar ein tudalen 
Facebook drwy gydol y pythefnos gofal maeth gan gynnwys:
Pa gefnogaeth fyddaf yn ei gael?
Bydd tîm maethu Sir y Fflint yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac mae ganddynt 
lawer o brofiad. Fel gofalwr maeth, bydd gennych weithiwr cymdeithasol 
dynodedig a fydd yn cadw mewn cysylltiad agos â chi dros y ffôn neu drwy ymweld 
â chi.  Byddwch yn cael hyfforddiant.  Fel gofalwr maeth byddwch yn derbyn 
lwfans i’ch helpu i ofalu am y plentyn yn ogystal ag unrhyw offer ymarferol 
angenrheidiol. 
Pa hyfforddiant fyddaf yn ei dderbyn?
Nid oes disgwyl i unrhyw ofalwr maeth wybod popeth ac mae hyfforddiant yn rhan 
hanfodol o’ch dysgu a’ch datblygu a chynnig cymorth a chyngor i chi. Bydd 
hyfforddiant yn broses barhaus drwy gydol eich gyrfa gyfan fel gofalwr maeth. 
Yn ystod y cyfnod ymgeisio byddwch yn mynychu ‘Cwrs Sgiliau i Faethu’ i’ch 
paratoi ar gyfer yr heriau sy’n gysylltiedig â maethu.
Ydw i’n rhy hen?
Nid oes uchafswm oedran i faethu. Mae pobl sydd wedi magu eu teuluoedd eu 
hunain ac sydd wedi ymddeol / lled-ymddeol yn ofalwyr maeth delfrydol. Mae 
ganddynt lawer o brofiad i’w gyfrannu at y rôl ac maent mewn gwell sefyllfa i 
ofalu am blant hyn. Mae hyn oherwydd ein bod yn argymell eich bod yn maethu 
plant sydd o leiaf blwyddyn yn iau na’ch plentyn ieuengaf eich hun. Os yw pobl 
mewn iechyd da, os oes ganddynt egni, amser ac ymrwymiad i ddarparu amgylchedd 
gofalgar, cariadus a chefnogol i blentyn/unigolyn ifanc, nid yw oedran yn 
rhwystr.
Pam maethu gyda’ch Cyngor lleol?
Mae maethu gyda’ch Cyngor lleol yn rhoi cyfle i chi helpu plant lleol a’u helpu 
i aros yn eu hardal leol ac ysgolion lleol. Byddwch yn cael cefnogaeth a 
hyfforddiant sydd eu hangen arnoch ar garreg eich drws a bydd tîm profiadol ar 
gael gerllaw. Ymunwch â thros 100 o deuluoedd lleol sydd eisoes yn maethu gyda 
Chyngor Sir y Fflint.