天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


鈥淩ascals Bach Iach鈥�

Published: 04/05/2017

Mae Grwp Chwarae Little Rascals yng Nghei Connah yn dathlu ar 么l dod yn gylch chwarae cyntaf yn Sir y Fflint i gwblhau Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy. Gweithiodd staff y grwp chwarae gyda phlant a rhieni i wella chwe maes y mae鈥檙 cynllun yn ymdrin 芒 nhw: 路 Maeth ac Iechyd y Geg 路 Gweithgareddau Corfforol / Chwarae Bywiog 路 Iechyd Meddyliol ac Emosiynol, Lles a Pherthnasau 路 Amgylchedd 路 Diogelwch 路 Hylendid 路 Iechyd a Lles yn y Gweithle Mae hwn yn gynllun cenedlaethol a reolir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy鈥檔 cael ei gydlynu yn Sir y Fflint fel estyniad i鈥檙 Cynllun Ysgolion Iach. Mae Little Rascals wedi bod yn cymryd rhan yn y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy ers 2013, gan dderbyn cyngor, hyfforddiant a chymorth gydag adnoddau. Maen nhw wedi llwyddo i hyrwyddo hylendid, gweithgarwch corfforol, bwyta鈥檔 iach a sgiliau cymdeithasol ymhlith y plant yn eu gofal. Mae Meithrinfa Ddydd Sunray, Nercwys, Amanda Calloway (Gwarchodwr Plant o Dreuddyn) a Grwp Chwarae鈥檙 Santes Gwenffrewi hefyd wedi cwblhau pob agwedd ar y cynllun yn ddiweddar. Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint, Ian Budd: 鈥淢ae arferion iach yn cael eu sefydlu yn y blynyddoedd cynnar, ac felly mae gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar yn bobl ddelfrydol i annog byw鈥檔 iach. Mae ganddyn nhwr potensial i wneud cyfraniad enfawr at iechyd a lles y plant yn eu gofal ac mae鈥檙 Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn eu helpu nhw i wneud hynny. Mae staff yr holl leoliadau wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol ir cynllun ac i les y plant, ac maen nhw鈥檔 haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith caled.鈥�