天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eich pleidlais chi yw hwn!

Published: 02/05/2017

Dydd Iau 4 Mai yw鈥檙 diwrnod lle bydd pleidleiswyr yn Sir y Fflint ac ar draws Cymru yn cael dweud eu dweud ar bwy fydd yn eu cynrychioli ar eu cyngor sir a鈥檜 cynghorau tref a chymuned lleol. Dylai pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio fod wedi derbyn cerdyn yn nodi manylion yr orsaf bleidleisio lle y gallant fwrw eu pleidlais. Does dim angen i chi ddod 芒 hwn ar y diwrnod, ond os nad ydych wedi derbyn cerdyn yna ffoniwch 01352 702327, 702329 neu 702412 os gwelwch yn dda i ganfod lle mae eich gorsaf bleidleisio - maen bosibl na fydd yr un fath 芒r tro diwethaf i chi bleidleisio! Bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, ac maent ar agor o 7am tan 10pm ddydd Iau, 4 Mai. Pan gyrhaeddwch, fe ofynnir i chi gadarnhau eich enw a鈥檆h cyfeiriad, a byddwch yn derbyn eich papur pleidleisio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, bydd staff ar gael i鈥檆h helpu. Mae yna nifer o Wardiau lle nad oes cystadleuaeth am y seddi ac ni fydd y Gorsafoedd Pleidleisio ar agor. Caiff y Gorsafoedd Pleidleisio hynny eu rhestru isod: Llyfrgell Gymunedol Bagillt, Bagillt Neuadd Gymunedol Trem Afon, Ffordd Treffynnon, Bagillt Adain Gymunedol, Ysgol Bryn Garth, Penyffordd Canolfan Gymunedol, Talacre Canolfan, Ffynnongroyw Ysgoldy Eglwys Unedig Ddiwygiedig Sant Ioan, Y Fflint Neuadd Gymunedol Cilfan, Cornist, Y Fflint Canolfan Ieuenctid, Ffordd y Gogledd, Treffynnon Canolfan Gymunedol, Holway Neuadd Eglwys Dewi Sant, L么n Dewi Sant, Yr Wyddgrug Canolfan Ieuenctid, Penyffordd Ysgol Ioan Fedyddiwr, Ffordd Caer, Penymynydd Canolfan Gymunedol, Hafan Deg, Treuddyn