Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dyfodol Mwy Disglair i Gyn-filwyr a鈥檜 Teuluoedd
  		Published: 21/04/2017
Bydd cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd ar draws gogledd Cymru鈥檔 elwa o gymorth 
ychwanegol gan awdurdodau lleol wedi dyraniad o 拢230,000 gan y Weinyddiaeth 
Amddiffyn. 
Bydd yr arian yn mynd tuag at gyflogi dau Swyddog Cyswllt ir Lluoedd Arfog a 
fydd yn ategu gwaith i ddarparu Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog ar draws y 
rhanbarth, drwy sicrhau bod rhai syn gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr a鈥檜 
teuluoedd yn cael eu trin yn deg a chyda parch.
Bydd cylch gwaith y swyddogion yn cynnwys adolygu polis茂au a gweithdrefnau 
cyfredol mewn meysydd syn cynnwys Adnoddau Dynol, Gofal Cymdeithasol, Addysg a 
Thai.  Bydd y swyddogion hefyd yn sicrhau bod anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog 
yn cael eu hystyried mewn cynlluniau strategol newydd a newidiadau i 
wasanaethau syn gysylltiedig ag, er enghraifft, Deddf Lles Cenedlaethaur 
Dyfodol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.  
Bydd y swyddogion yn ceisio pennu maint a nifer y rhai sydd yng Nghymuned 
Lluoedd Arfog y rhanbarth ac yn ceisio sefydlu dulliau cyfathrebu clir fel bod 
gwybodaeth gan ac at aelodaur gymuned yn llifon fwy effeithiol.   
Byddant hefyd yn canolbwyntio ar hyfforddi staff rheng flaen, er mwyn iddyn nhw 
allu deall a chefnogi anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yn well.  
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
	
鈥淎r 么l derbyn gwobr efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn gan y 
Weinyddiaeth Amddiffyn yn gynharach eleni, mae Sir y Fflint yn falch iawn o 
glywed y newyddion hwn.    Rydym wedi ymrwymo鈥檔 llwyr i gefnogi person茅l a chyn 
filwyr y lluoedd arfog a byddwn yn gweithio鈥檔 agos gydag awdurdodau eraill yng 
Ngogledd Cymru i sicrhau y bydd y Wobr hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu 
cyfleoedd ymhellach iddyn nhw ac aelodau ou teuluoedd.鈥 
Bydd yr arian yn cael ei weinyddu gan Gyngor Wrecsam ar ran chwe Awdurdod Lleol 
Gogledd Cymru.