Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod Agored Ddoe a Heddiw Y Parlwr Du
  		Published: 18/04/2017
Mae partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a Grwp Treftadaeth 
Gymunedol y Parlwr Du yn cynnal diwrnod agored ym Mhentre Peryglon, Ffordd yr 
Orsaf, Talacre dydd Sul 23 Ebrill o 11am-4pm. 
Bydd digonedd o weithgareddau drwy gydol y dydd gyda rhywbeth i bob oed.
Mae Cylchdaith sy鈥檔 cysylltur Parlwr Du a Thalacre wedi ei datblygu gyda 
chymorth cyllid gan Gronfa Cymunedau鈥檙 Arfordir a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae cyfres o baneli ar hyd y llwybr a thaflen yn egluro hanes Pwll Glor Parlwr 
Du, y pwll dwfn olaf yng Ngogledd Cymru, a phwysigrwydd hanesyddol Aber Afon 
Dyfrdwy ar gyfer llongau. Fe fu disgyblion o Ysgol Mornant ac Ysgol Bryn Garth 
yn gweithio gyda鈥檙 gwneuthurwr print Ruth Thomas i gynhyrchu print o longau, 
adar a mwyngloddio ac maent yn addurno鈥檙 daflen ar paneli. 
I鈥檙 rhai sy鈥檔 defnyddio ffonau clyfar, fe fydd cyfle i brofi鈥檙 ap newydd yr 
ydym yn ei ddatblygu i helpu ymwelwyr i grwydro鈥檙 ardal.
Bydd Cambria Band yn perfformio cyn i鈥檙 llwybr gael ei agor gan aros i gynnal 
gweithdai cerddoriaeth drwy gydol y dydd. Bydd Ruth Thomas yn helpu teuluoedd i 
wneud printiau o blu a gwrthrychau naturiol eraill. Hefyd bydd sesiynau sgiliau 
syrcas a phaentio wynebau ac felly bydd digon i ddiddanu鈥檙 teulu.
Rydym yn casglu atgofion am y pwll i鈥檞 defnyddio mewn llyfryn ac ar-lein a 
hoffem i gyn lowyr a鈥檜 teuluoedd ddod ag unrhyw hen luniau neu eitemau coffa 
eraill gyda nhw a dod i weld beth rydym wedi ei gasglu eisoes. Byddwn yn sganio 
neu鈥檔 tynnu lluniau or eitemau ar y diwrnod fel y gallwch fod yn dawel eich 
meddwl na fyddant yn cael eu niweidio. Bydd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Glowyr 
Gogledd Cymru yn dod 芒鈥檜 fan symudol gyda mwy o arddangosfeydd ac arteffactau 
glofaol.
Bydd y Gymdeithas Gwarchod Adar yn dod ag arddangosfeydd a bydd cynrychiolwyr 
yn bresennol yn y guddfan adar i gynorthwyo ymwelwyr i ddysgu mwy am 
bwysigrwydd ecolegol yr aber, sy鈥檔 bwysig yn rhyngwladol am ei adar, ac i 
adnabod yr adar sy鈥檔 byw yma.
Y digwyddiad hwn yw鈥檙 cyntaf o gyfres fydd yn cael ei ariannu gyda鈥檔 grant o 
Gronfa Treftadaeth y Loteri i helpu i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth y pwll 
glo a鈥檙 aber o鈥檌 gwmpas ac rydym yn gobeithio y bydd llawer yn dod ir 
digwyddiad.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 th卯m y Gwasanaeth Cefn Gwlad ar 01352 703900 
neu e-bostiwch countryside@flintshire.gov.uk.