Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint mewn Busnes
  		Published: 11/04/2017
Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint ar ei newydd wedd 鈥 
lansiwyd Sir y Fflint mewn Busnes mewn Brecwast Arloesi Busnes a gynhaliwyd yn 
ddiweddar.
Cyfarfod Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy oedd y lleoliad perffaith i gyflwyno鈥檙 
rhaglen newydd o ddigwyddiadau ar gyfer 2017 鈥 gan newid o wythnos o 
ddigwyddiadau, i raglen o ddigwyddiadau wedi eu trefnu drwyr flwyddyn.
Ymhlith y rhain mae digwyddiadau鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cyfryngau cymdeithasol a 
phresenoldeb ar-lein, cyllid, twf busnes a chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo 
cyfleoedd lleol i fyfyrwyr ysgol a choleg.
Bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sy鈥檔 hynod boblogaidd, yn parhau i gael eu 
cynnal yn Neuadd Sychdyn ar 20 Hydref.  
Dywedodd Prif Swyddog dros Gymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden:
 鈥淢ae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi tyfu o nerth i nerth dros y 10 mlynedd 
ddiwethaf ac wedi croesawu dros 23,000 o gynrychiolwyr yn ystod y cyfnod 
hwnnw.  Roeddem yn teimlo fod cyfle nawr i ddatblygur rhaglen a chyflwyno 
digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i annog hyd yn oed mwy o fusnesau i gymryd 
rhan.鈥
Dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Barry Jones: 
鈥淒yma fenter wych a fydd yn hyrwyddo economi rhagorol Gogledd Ddwyrain Cymru 
ymhellach. Yr hyn sy鈥檔 rhyfeddol yw bod cysylltiad traws ffiniol o bwysigrwydd 
mawr ac mae鈥檙 Sir, drwy fod yn aelod o Gynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy, yn dangos 
doethineb sylweddol.  Ni yw鈥檙 lleoliad mwyaf effeithiol ym Mhrydain o ran 
gweithgynhyrchu ar unig economi traws ffiniol ym Mhrydain - mae ein 
galluogrwydd gweithgynhyrchu yn syfrdanol.